Gweithwyr Cymru wedi gweithio gwerth £717 miliwn o oramser heb dâl y llynedd yn ôl dadansoddiad TUC Cymru

0
301
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary
  • Gweithwyr Cymru wedi gweithio gwerth £717 miliwn o oramser heb dâl yn 2020
  • Heddiw yw ‘Diwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn’, pan fydd gweithwyr yn cael eu hannog i orffen yn brydlon gyda chefnogaeth frwd eu cyflogwyr

Hawliodd cyflogwyr yng Nghymru gwerth £717 miliwn o lafur am ddim y llynedd oherwydd bod gweithwyr wedi bod yn gweithio oriau goramser am ddim, yn ôl dadansoddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener) gan TUC Cymru.

Heddiw yw’r 17fed tro i Ddiwrnod Gweithio Eich Oriau Go Iawn blynyddol y TUC gael ei gynnal. Ar y diwrnod hwn, mae gweithwyr yn cael eu hannog i orffen shifftiau’n brydlon, a chaiff rheolwyr eu hannog i gefnogi staff drwy osod llwyth gwaith rhesymol a sefydlu polisïau yn y gweithle sy’n diogelu rhag gorweithio.

Prif ganfyddiadau ac effaith y pandemig

Ledled y Deyrnas Unedig, roedd dros 3 miliwn o bobl wedi gweithio 7.7 awr yr wythnos o oriau goramser yn ddi-dâl ar gyfartaledd yn ystod 2020. Ar gyfartaledd, mae hynny’n cyfateb i £7,300 y flwyddyn o gyflog nad yw’n cael ei dalu am waith a wneir.

Yng Nghymru, roedd 8.4% o weithwyr yn gweithio goramser heb dâl, gan weithio 8.6 awr yr wythnos dros eu horiau ar gyfartaledd. Mae hynny’n cyfateb i £6,841 y flwyddyn o gyflog nad yw’n cael ei dalu, a dyma’r nifer uchaf o oriau heb eu talu sy’n cael eu gweithio bob wythnos yn y Deyrnas Unedig (gweler Tabl 3 yn y nodiadau)

Gyda llawer o weithwyr ar ffyrlo ac yn lleihau eu horiau gwaith i ofalu am blant, mae nifer yr oriau sy’n cael eu gweithio yn yr economi wedi gostwng. O gymharu’r sefyllfa â’r blynyddoedd diwethaf, adlewyrchir hyn yn y nifer sylweddol is o weithwyr sy’n gweithio goramser heb dâl. Mae cyfanswm yr oriau di-dâl a gwerth ariannol yr oriau di-dâl a weithiwyd hefyd wedi gostwng. (gweler Tabl 1 yn y nodiadau)

Rheolwyr a chyfarwyddwyr sy’n bennaf gyfrifol am y 10 prif swydd lle mae gweithio goramser yn ddi-dâl yn gyffredin. Mae’n awgrymu nad yw cyfrifoldebau ychwanegol staff lefel uwch yn cael eu cefnogi’n briodol gan gyflogwyr.

Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, mae athrawon yn uchel ar y rhestr. Mae’r her o gadw ysgolion yn agored i blant gweithwyr allweddol, tra’n darparu gwersi dysgu gartref hefyd, wedi cynyddu eu dwysedd gwaith. (gweler Tabl 2 yn y nodiadau)

Mae angen ‘Cyllideb Gweithwyr’ ar Gymru

Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno ‘Cyllideb Gweithwyr’ yr wythnos nesaf. Mae hynny’n golygu darparu’r cyllid angenrheidiol i fuddsoddi yn y swyddi a’r seilwaith gwyrdd sydd eu hangen ar Gymru i foderneiddio ein heconomi, y cyllid i sicrhau y gall pob gweithiwr allweddol yng Nghymru gael codiad cyflog, ac ymrwymo i godi’r isafswm cyflog i o leiaf £10 yr awr.

Mae TUC Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r Bil Cyflogaeth hirddisgwyliedig yn fuan. Mae’n cynnig cyfle hollbwysig i gryfhau amddiffyniadau yn erbyn dwysedd gwaith.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Dydy llawer o bobl ddim yn hoffi cwyno am ddwysedd gwaith yn ystod y pandemig. Maen nhw’n teimlo’n ddiolchgar fod ganddyn nhw swydd o hyd. Ond mae’r ffigurau hyn yn dangos swm aint anhygoel o waith sy’n cael ei wneud yn ddi-dâl yng Nghymru a’r baich annheg sydd wedi cael ei roi ar lawer o weithwyr.”

“Dylai’r Canghellor gyflwyno ‘Cyllideb Gweithwyr’ sy’n cydnabod yr ymdrechion mae pobl wedi eu gwneud. Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi’r cyllid ar waith fel y gall pob gweithiwr allweddol gael codiad cyflog. Ac er mwyn diogelu swyddi a busnesau, dylid ymestyn y ffyrlo tan ddiwedd y flwyddyn o leiaf.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle