Mae gweithiwr GIG Hywel Dda yn codi arian ar gyfer uned gofal arbennig babanod Glangwili

0
371

Y Dydd Gŵyl Dewi hwn rydym yn dathlu un o’n cydweithwyr gwych ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n ymgymryd â her codi arian y penwythnos hwn i gefnogi #EichElusenGIG.

Mae Donna Reed o Ddoc Penfro yn gweithio yn y Tîm Cyfathrebu ac fe’i hysbrydolwyd i godi arian i gefnogi ei Huned Gofal Arbennig Babanod lleol Ysbyty Glangwili wrth iddynt nyrsio ei nith Layla am sawl wythnos pan gyrhaeddodd yn gynnar iawn yn 2012.

Meddai Donna, “A hithau yn ddim ond 3 pwys pan gafodd ei geni, mae Layla bellach yn blentyn wyth oed  hyfryd a bywiog. Hoffem fel teulu roi rhywbeth yn ôl i’r staff a oedd yn gofalu am Layla pan oedd hi mor fach.”

Mae Donna a’i gŵr Edd yn cynllunio cyfres o heriau corfforol trwy’r flwyddyn. Ychwanegodd Donna, “Flwyddyn yn ddiweddarach ers i mi ddechrau codi arian ar gyfer SCBU Ysbyty Glangwili, ac ar ôl i bob un ond un o fy nigwyddiadau y llynedd gael eu gohirio, penderfynais ymgymryd â her unigryw iawn i godi £100 arall i gyrraedd fy nharged. Rydw i’n mynd i fod yn rhedeg her 4 x 4 x 48 yr Arberth Nobbler rhwng 5 -7 Mawrth. Bydd y digwyddiad yn golygu y byddaf i ac Edd yn rhedeg 4 milltir bob 4 awr am 48 awr, cyfanswm o 48 milltir dros y penwythnos. Mae hwn yn ddigwyddiad anhygoel o galed a fydd yn profi ein stamina, dyfalbarhad ac asbri. ”

Meddai Rebecca, mam Layla, “Gan fod Layla wedi ei geni’n gynamserol roedd yn amser pryderus iawn, fodd bynnag roeddem yn gwybod ei bod yn y dwylo gorau yn SBCU wrth iddynt ei magu i bwysau iach a gwneud popeth o fewn eu gallu i dawelu ein meddwl fel rhieni.

“Rydyn ni mor ddiolchgar am y gofal a’r gefnogaeth a roddodd staff i Layla ac i’n teulu, ac i’m chwaer ac Edd am godi arian ar gyfer yr uned.”

Mae Donna hefyd yn bwriadu cymryd rhan yn Triathlon Aberllydan, Hanner Marathon Caerdydd a Marathon Eryri yr Wyddfa, ar yr amod eu bod yn parhau i ddigwydd.

Hoffai Donna ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ei ymgyrch hyd yn hyn ac  annog pobl i roi os gallant, “Bydd unrhyw swm, waeth pa mor fach, yn helpu i wneud gwahaniaeth a bydd 100% o’r arian a godir yn mynd tuag at helpu babanod fel Layla a’u teuluoedd, ”meddai. 

Gallwch gefnogi Donna yn justgiving.com/fundraising/donna-reed69 

#4x4x48challenge


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle