Heddiw (01/03/21), ar achlysur ei phen-blwydd yn 20 oed, mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn edrych yn ôl ar ei hanes anhygoel ac yn talu teyrnged i bawb sydd wedi cyfrannu at ei gwasanaeth achub bywydau.
Y diweddar Robert Palmer a sefydlodd yr Elusen ac ef oedd Cadeirydd cyntaf yr Ymddiriedolwyr. O’i weledigaeth ef, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi tyfu o fod yn weithrediad un hofrennydd wedi’i leoli ym maes awyr Abertawe, i’r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU, â phedwar hofrennydd. Mae’r hofrenyddion wedi’u lleoli ledled y wlad, yng Nghaernarfon, y Trallwng, Llanelli a Chaerdydd.
Dros y degawd diwethaf, mae wedi datblygu o fod yn wasanaeth wedi’i arwain gan barafeddygon i un sydd wedi’i arwain gan feddygon ymgynghorol sy’n mynd â’r adran achosion brys at y claf. Diolch i’r bartneriaeth unigryw rhwng yr Elusen â’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys a GIG Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru yw un o’r gwasanaethau ambiwlans awyr mwyaf datblygedig yn feddygol yn Ewrop.
Pan ddechreuodd y gwasanaeth yn 2001, roedd yn gweithredu am wyth awr y dydd, pum diwrnod yr wythnos, a’i gweledigaeth oedd dod yn wasanaeth 24/7. Gwireddwyd y weledigaeth hon ar 1 Rhagfyr y llynedd, drwy gyflwyno hofrennydd nos ar ben y gwasanaeth 12 awr yn ystod y dydd.
Ers ei sefydlu, mae’r Elusen wedi ymateb i bron 38,000 o alwadau. Er mwyn i’r hofrenyddion allu gweithredu bob awr o’r dydd a’r nos, mae angen iddi godi £8 miliwn bob blwyddyn.
Dywedodd Dave Gilbert OBE, Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr Elusen: “Mae edrych yn ôl a gweld sut y mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf yn gwneud i ni gyd deimlo’n falch iawn. Mae ein taith, o weledigaeth gynnar Robert Palmer, i fod yn un o’r gwasanaethau mwyaf a mwyaf datblygedig yn feddygol, yn rhywbeth y gall Cymru gyfan fod yn falch ohoni. Wedi’r cyfan, cafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei chreu gan bobl Cymru, i bobl Cymru, ac mae twf ein helusen yn destament i’r gallu, yr ymroddiad, y brwdfrydedd a’r haelioni sy’n bodoli yn ein gwlad.”
Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr yr Elusen: “Dechreuais fy swydd gydag Ambiwlans Awyr Cymru fis Rhagfyr diwethaf a buan iawn y daeth yn glir pam y mae’r Elusen wedi ffynnu dros yr 20 mlynedd diwethaf o weld proffesiynoldeb, brwdfrydedd ac ymrwymiad pawb sy’n cyfrannu at ei gwaith. Mae hyn wedi ein galluogi i ddarparu gwasanaeth achub bywydau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar lawer o bobl drwy Gymru.
“Gall pawb sydd wedi cyfrannu at ein Helusen dros y blynyddoedd fod yn falch eu bod wedi chwarae eu rhan yn y gwaith o greu’r Elusen rydym yn gyfarwydd â hi heddiw. Hoffem ddiolch o waelod calon i’r meddygon, peilotiaid, dyranwyr gofal critigol, staff a gwirfoddolwr, ymddiriedolwyr, a phawb sydd wedi codi a rhoi arian dros yr 20 mlynedd diwethaf.”
Bydd yr Elusen yn dathlu’r garreg filltir hon gyda chyfres o weithgareddau a digwyddiadau rhwng 1 Mawrth 2021 ac 1 Mawrth 2022 ac mae’r dathliadau wedi dechrau gyda her codi arian ‘Fy20’.
Neil Chattington oedd y claf cyntaf i gael ei gludo mewn hofrennydd gan Ambiwlans Awyr Cymru. Dyma stori Neil.
Stori Neil
Ugain mlynedd yn ôl, wrth i Neil Chattington chwarae gêm rygbi dan 16, ni wyddai y byddai’n dod yn rhan sylweddol o hanes Ambiwlans Awyr Cymru.
Neil, a oedd ag ofn hedfan, oedd y claf cyntaf erioed i gael ei gludo gan Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i’r Elusen gael ei lansio yn 2001.
Gan gofio am y diwrnod, dywedodd Neil, a oedd yn chwarae i Glwb Rygbi Glyn-nedd yn erbyn Aberafan ar y pryd: “Rwy’n cofio cryn dipyn. Roedd wedi bwrw ychydig o eira dros nos a gwnaethom glirio’r cae cyn dechrau. Roedd gan Aberafan dîm da iawn, gyda rhai chwaraewyr a aeth ymlaen i wneud pethau da. Roedd chwarae yn eu herbyn bob amser yn anodd.
“Ar adeg y digwyddiad, roeddem yn ymosod o’n hanner ni ac roeddwn i wedi llwyddo i dorri’n rhydd, gan redeg heibio i’w cefnwr ac i ofod agored – neu’r hyn roeddwn i’n credu oedd yn ofod agored – a chefais fy nhaclo’n galed iawn gan un o’r propiau. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy nhaclo, felly nid oeddwn yn barod amdano. Cefais fy nhroi o gwmpas a chwympais i’r llawr yn galed. Y peth nesaf, teimlais boen miniog yn ochr chwith fy ngwddf a chollais i’r teimlad yn fy mreichiau a’m coesau.
“I ddechrau es i i banig, ond wnes i ddim ceisio symud a stopiodd y dyfarnwr y gêm. Pan sylweddolodd y swyddogion cymorth cyntaf beth oedd yn bod, gwnaethant ffonio’r ambiwlans a gwnaeth y ddau dîm, y swyddogion cymorth cyntaf a rhai o’r rhieni, ofalu amdanaf yn dda. Daeth un rhiant â blanced ceffyl i fy nghadw i’n gynnes.”
Y parafeddygon Mark Winter a Paul Haddow, a’r peilot Steve Rush, oedd criw Ambiwlans Awyr Cymru y diwrnod hwnnw. Mae Mark Winter yn dal i weithio gyda’r gwasanaeth heddiw fel ei Gyfarwyddwr Gweithrediadau. Brian Knoyle, a oedd yn gweithio yn ystafell rheoli’r Gwasanaeth Ambiwlans, a anfonodd y criw i’r clwb rygbi ar eu galwad gyntaf, gan ofni bod Neil wedi torri ei gefn.
Dywedodd Neil, sydd wedi byw yng Nghaerdydd am 14 mlynedd, fod gweld yr hofrennydd wedi gwneud iddo ‘deimlo’n eithaf ofnus i ddechrau’ am fod ofn hedfan arno, ond fod ganddo ‘hyder yn y criw’.
Ychwanegodd: “Y peth cyntaf feddyliais oedd ‘o diar!’, ac yn bendant bod ‘rhywbeth o’i le’. Roeddwn i wedi dioddef digon o ergydion i wybod bod hwn yn wahanol. Synnais pa mor gyflym oedd y daith yn yr awyr, ac nid oedd mor frawychus ag yr oeddwn wedi meddwl y byddai. Cefais fy monitro’n gyson drwy gydol y daith. Wrth edrych yn ôl, rwy’n meddwl am ba mor syml oedd yr holl beth a’r ffaith y gallai’r sefyllfa wedi bod yn waeth o lawer.”
Ugain mlynedd yn ôl, Cyfarwyddwr Gweithredol presennol y Gwasanaeth, Mark Winter, oedd ar y sifft 8am i 4pm cyntaf, yn gweithio fel Swyddog Staff Parafeddygol. Cafodd y criw ei alw i wrthdrawiad traffig ffordd yn wreiddiol, ond pan wnaethant gyrraedd, nid oedd eu hangen felly gwnaethant dynnu yn ôl. Yna, aethant yn ôl i’r maes awyr i gael mwy o danwydd.
Tra roeddent yno, daeth yr alwad i fynd at Neil. Ychwanegodd Mark: “Yna, cawsom ein hanfon i Glwb Rygbi Glyn-nedd lle roedd Neil wedi bod yn chwarae mewn gêm. Roedd criw ambiwlans lleol wedi cyrraedd y lleoliad ac roeddent yn trin Neil ar gyfer anaf i’w wddf. Pan wnaethom gyrraedd, gwnaethom ei atal rhag symud, ei gadw’n gynnes, ei roi ar gyfarpar monitro claf a rhoi’r tawelwch meddwl y mae’n siŵr yr oedd ei angen arno ar yr adeg honno. Yna, gwnaethom ei gludo yn yr awyr i Ysbyty Treforys. Roedd Neil yn glaf gwych a diolch byth, roedd y daith yn un digyffro.”
Er gwaethaf ei anafiadau, gwnaeth Neil, sydd bellach yn rhedeg ei gwmni cynnal a chadw tai ei hun, ddychwelyd i’r gamp. Dywedodd: “Cymerodd gryn dipyn o amser i mi fynd yn ôl i chwarae rygbi eto ac, yn anffodus, rydw i wedi dioddef effeithiau hirdymor. O ganlyniad, gwnes i roi’r gorau i chwarae rygbi yn 23 oed, oherwydd effaith yr holl anafiadau.”
Mae Neil yn falch i allu dweud mai ef oedd claf cyntaf yr Elusen. Gan drafod sut roedd yn teimlo i gael y teitl hwnnw, dywedodd: “Byddai’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n ddiolchgar. Diolch byth, nid oedd fy anaf mor ddifrifol ag y gallai fod wedi bod, ac roedd y gofal a gefais yn wych.”
Roedd Max Boyce yno y diwrnod hwnnw, ac mae wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ers hynny. Dywedodd: “Rydw i wedi gweld y gwaith gwych y maent yn ei wneud. Fi yw llywydd Cymdeithas Golff De Cymru, ac rydym wedi codi cannoedd o filoedd o bunnoedd i Ambiwlans Awyr Cymru dros y blynyddoedd. Mae’n elusen haeddiannol iawn. Ugain mlynedd, mae hynny’n arbennig iawn. Dyma ddymuno’n dda ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle