Lansio ymgynghoriad ar Fil newydd i wella arferion gwaith a chreu Cymru deg

0
251
Hannah Blythyn AM Deputy Minister for Housing and Local Government

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi lansio ymgynghoriad 8 wythnos o hyd sy’n gofyn i bobl am eu barn am fil newydd i wella arferion gwaith teg a gwasanaethau cyhoeddus, lleihau anghydraddoldebau ac i greu’r amodau economaidd cywir ar gyfer economi a gweithlu mwy llewyrchus.

Mae pandemig y Coronafeirws wedi gwaethygu’r heriau sy’n wynebu pobl yn eu gwaith a chadarnhau gwerth partneriaethau cymdeithasol i’w trechu.  Bydd y Bil yn helpu Cymru i ymadfer o effeithiau’r pandemig ac adeiladu dyfodol tecach.

Bydd y Bil Partneriaeth Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus drafft yn:

  • Creu Cyngor Partneriaethau Cymdeithasol;
  • Hybu gwaith teg trwy drefniadau caffael cymdeithasol-gyfrifol;
  • Ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio mewn partneriaeth gymdeithasol
  • Hyrwyddo swyddi da a diogel yng Nghymru a;
  • Gwella canlyniadau economaidd-gymdeithasol ac arferion cyflogi moesegol.

Trwy ddod â Llywodraeth Cymru, cyflogwyr ac undebau llafur ynghyd, bydd partneriaethau cymdeithasol yn helpu i gael hyd i ffyrdd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn well, gwella lles cymdeithasol ac economaidd a chreu Cymru decach a mwy cynhwysol.

Mae partneriaethau cymdeithasol yn ffordd o weithio sydd eisoes wedi ennill ei phlwyf yng Nghymru, yn fwyaf diweddar trwy’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol a’r Fforwm Iechyd a Diogelwch Cenedlaethol.  Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn bwysig iawn trwy’r pandemig o ran cefnogi’r cynllun cymorth hunanynysu, rhoi dyletswydd hunanynysu ar gyflogwyr ac unigolion a helpu i gryfhau asesiadau risg a mesurau amddiffyn yn y gweithle.

Mae cryfhau trefniadau partneriaeth gymdeithasol yn adlewyrchu prif argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg.

Meddai’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

 “Fuodd yna erioed amser pwysicach i weithio gyda’n gilydd dros Gymru decach a mwy cyfartal a chyfiawn.  Er bod partneriaethau cymdeithasol wedi hen ennill eu plwyf yng Nghymru, mae pandemig COVID-19 wedi cryfhau ein hymrwymiad i bartneriaethau cymdeithasol ac wedi profi eu gwerth wrth wneud penderfyniadau er lles cyffredinol pobl Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i wneud gwahaniaeth i bobl, i’r gweithle ac i Gymru.  Mae’r Bil hwn yn gam pwysig at wireddu’r weledigaeth honno a gwneud Cymru’n wlad a chanddi economi fywiog sy’n trysori ac yn diogelu ein gweithlu.  Rwy’n disgwyl ymlaen at barhau i weithio gyda’n gilydd i helpu i lunio dyfodol ein gweithlu a phartneriaethau cymdeithasol yng Nghymru.”

Dywedodd Ruth Brady, Llywydd TUC Cymru ac Ysgrifennydd Rhanbarthol GMB Cymru a De-orllewin Lloegr:

“Mae’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol yn gam dewr a radical fydd yn rhoi mwy o lais i weithwyr ynghylch y ffordd y mae’n gwlad yn cael ei rhedeg.

“Gyda’n gilydd, mewn partneriaeth, byddwn yn gwneud newidiadau go iawn fydd yn gwneud cydraddoldeb a thecwch yn rhan annatod o bob gweithle yng Nghymru.

“Mae’r undebau llafur a’r mudiad llafur wastad wedi credu mai’r ffordd orau o gael hyd i ateb teg i’r heriau sy’n wynebu Cymru yn yr 21ain ganrif yw trwy ymwneud yn ddemocrataidd â’r gweithwyr.

“O gofio’r ansicrwydd yn sgil Covid a Brexit, y gwir yw na fu erioed yn bwysicach i ymuno ag undeb, felly rydym yn annog pawb i gofrestru, cymryd rhan a bod yn ganolog i newid Cymru er gwell.”

Dywedodd y Cyng Philippa Marsden (Llefarydd CLlLC dros Gyflogaeth):

“Mae CLlLC yn croesawu’r Bil. Mae gan awdurdodau lleol Cymru hanes o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur.  Mae hyn yn gweithio’n dda ar lefel pob awdurdod lleol yn ogystal ag ar lefel genedlaethol. Rydym yn ymroi’n ddiflino i greu diwylliant sy’n osgoi’r annisgwyl ond lle ceir ymgynghori buan ac ystyrlon a chymaint o benderfynu ar y cyd â phosibl.  Mae hyn wedi’n helpu i ddatblygu arferion gwaith gwell, trechu anghydraddoldeb a gwella canlyniadau cymdeithasol.  Mae hi ond yn deg bod y rheini sy’n darparu’n gwasanaethau yn cael cyfrannu at y canlyniadau rydym am eu gweld. Mae’r pandemig yn dangos yr hyn y gall y gwasanaethau cyhoeddus ei wneud o gael pawb i weithio mewn partneriaeth; rydym wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny yn y dyfodol.”

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 23 Ebrill.  Gallwch ymateb yma.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle