Mae cleifion dialysis sy’n mynychu ysbytai Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg ymhlith y cleifion dialysis cyntaf i dderbyn eu brechlyn COVID-19 yn y DU.
Ers dechrau’r pandemig, mae pobl sy’n derbyn triniaeth dialysis arennol wedi byw mewn ofn o COVID-19. Mae cleifion â methiant yr arennau yn cael eu hystyried yn hynod agored i niwed i’r feirws, ond ni allant ynysu oherwydd bod rhaid iddynt fynd i uned dialysis dair gwaith yr wythnos i gael triniaeth achub bywyd.
Mae cyfran uchel yn dibynnu ar gludiant i’r ysbyty, sydd hefyd yn effeithio ar eu gallu i ynysu, a byddent wedi cael anhawster i gael gafael ar apwyntiadau brechu cymunedol oherwydd eu hamserlenni triniaeth.
Fodd bynnag, mae cleifion dialysis ledled De Orllewin Cymru bellach wedi derbyn eu dos cyntaf yn gyflym oherwydd rhaglen a ddyluniwyd i frechu wrth fynychu sesiynau dialysis rheolaidd.
Wrth siarad am eu profiad drwy’r pandemig, dywedodd un claf, “Rydyn ni wedi byw mewn ofn oherwydd bod pobl ar ddialysis sy’n dal COVID yn llawer mwy tebygol o fynd yn sâl iawn neu farw.”
Dywedodd yr Athro Chris Brown, Fferyllydd Arennol Ymgynghorol: “Mae data’n dangos bod gan y cleifion hyn risg llawer uwch o farwolaeth o Covid-19 na’r boblogaeth yn gyffredinol.
Nid yw triniaeth ar gyfer y grŵp hwn o gleifion wedi dod i ben yn ystod y pandemig gyda dros 1,200 o driniaethau dialysis yr wythnos yn cael eu darparu gan ein gwasanaeth ym myrddau iechyd prifysgolion Hywel Dda a Bae Abertawe.
“Unwaith i ni gael caniatâd gan dîm brechu Hywel Dda i gyflwyno ar frys, fe wnaethom ni anfon tîm o’r unedau arennol i roi’r brechlyn i gleifion wrth iddynt gael eu triniaeth dialysis.
“Bu i Fferyllwyr arennol gyfeillio â nyrs arbenigol ym mhob un o ganolfannau dialysis y rhanbarth.
“Dangosodd hyn, er gwaethaf yr heriau, fod rhoi’r brechlyn mewn unedau dialysis yn sicr yn bosibl.
“Dangosodd cyflwyno rhaglen mor effeithiol ar draws ardal wledig yn Hywel Dda y gallai canolfannau dialysis eraill ledled y DU ddilyn yr esiampl.”
Dywedodd Chris “Cydsyniodd dros 99% o gleifion i’r brechlyn sy’n hynod o uchel ac yn llawer uwch nag y disgwyliwyd.
“Rwy’n credu bod hyn oherwydd y ffaith bod y brechlyn yn cael ei roi gan y staff sy’n gofalu am y bobl hyn yn wythnosol ac sy’n deall eu hanghenion gofal cymhleth.
“Roedd cyflwyno’r rhaglen frechu yn hynod effeithiol. Gweithiodd y tîm i gael y dos cyntaf i bobl dros ychydig ddyddiau ac ni wastraffwyd dos sengl o’r brechlyn.’’
“Dangosodd hyn, er gwaethaf yr heriau, ei bod yn bosibl rhoi brechiadau ar unedau dialysis.”
Mae data o bob rhan o’r DU yn dangos, ar ôl cael ei heintio â COVID-19, bod gan berson sy’n derbyn haemodialysis yn y ganolfan risg 1 mewn 5 o farwolaeth o fewn pythefnos; llawer uwch na’r risg o farwolaeth o COVID-19 yn y boblogaeth gyffredinol sydd o dan 1 ym 200. Mae hyn yn golygu bod gan glaf dialysis canol-oed 30 oed yr un risg o farwolaeth os yw wedi’i heintio â COVID-19 ag 80 -mlwydd-oed yn y boblogaeth yn gyffredinol.
Dywedodd Delyth Timmis, Uwch Reolwr Clinig a Nyrs Arennol Arweiniol yn uned arennol Ysbyty Glangwili: “Pan oeddem yn drparu’r brechlyn, dywedodd un claf wrthyf fod cael cynnig y brechlyn mewn amgylchedd cyfarwydd yn rhyddhad mawr a’i fod yn teimlo fel ein bod ni yn ‘ chwistrellu gobaith ‘a’u helpu i deimlo’n fwy gwarchodedig.”
Dywedodd Owain Brooks, Fferyllydd Arennol: “Clywsom am eu profiad drwy’r pandemig, dywedodd un claf wrthyf ei fod wedi‘ byw mewn ofn oherwydd bod pobl ar ddialysis sy’n dal COVID yn llawer mwy tebygol o fynd yn sâl iawn neu farw.’” Gorffennodd Chris: “Mae’r staff ymroddedig sy’n rhan o’r gwasanaeth arennol arbennig hwn wedi gweithio’n ddi-baid trwy’r pandemig ac o dan bwysau sylweddol i ofalu am bobl sy’n dibynnu arnom. Mae’r rhaglen frechu yn cynnig gobaith mawr ei angen am fisoedd gwell i ddod.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle