Cwrs coginio’r Gwasanaeth Ieuenctid yn llwyddiant!

0
296

Mae cwrs newydd a luniwyd i ysbrydoli pobl ifanc a’u dysgu i goginio yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn llwyddiant.

Syniad Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot oedd y cwrs o’r enw ‘Cook Slow, Learn Fast’, er mwyn dysgu pobl ifanc sut i baratoi a choginio prydau iachus i’w hunain a’u teuluoedd.  

Mae’r cwrs 10 wythnos yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc ag amgylchiadau gwahanol fel y rheini sy’n ofalwyr ar gyfer aelodau eraill o’r teulu, rhieni newydd neu’r rheini sydd newydd ddechau byw ar eu pennau eu hunain.

Rhoddir peiriant coginio araf, cynhwysion a cherdyn rysáit i bob person ifanc fel y gallant gymryd rhan yn y cwrs. Hefyd, mae aelod o dîm y Gwasanaeth Ieuenctid wrth law i roi cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau, a’u helpu o bell drwy Zoom.

Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, “Mae’n braf gweld bod ein Gwasanaeth Ieuenctid yn dod o hyd i ffyrdd o barhau â’u gwaith yn ddiogel i gefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod clo.

“Mae dysgu sgiliau hanfodol fel coginio yn allweddol i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu dilyn ffyrdd iach o fyw a gwella’u sgiliau byw’n annibynnol.

Ers lansio’r cwrs yn xxxx, mae e’ wedi helpu dros 40 o bobl ifanc i ddysgu am hanfodion coginio a phrydau iach.

Mae Jim Harle, gweithiwr prosiect yn Pobl Group yn gweithio gyda thri o’r bobl ifanc sy’n byw mewn llety â chymorth ac sy’n cymryd rhan yn y cwrs. “Mae’r cyfle hwn wedi golygu bod pobl ifanc yn gallu gweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid i ddatblygu eu sgiliau byw’n annibynnol a’u hyder o bell ac yn ddiogel.

“Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnig cymorth ychwanegol hefyd drwy’r ffôn a negeseuon testun, boed hyn mewn perthynas â’r gweithgarwch neu i holi ynghylch lles. Credaf fod hwn yn gyfle mor werthfawr i’n pobl ifanc yn ystod y cyfnod clo gan nad oes llawer o wasanaethau ac asiantaethau ar gael iddynt.”

Meddai mam ifanc sy’n dilyn y cwrs, “Mae hwn yn brosiect mor wych, dwi wedi dysgu cymaint ac mae’r un bach yn rhoi cynnig ar gynifer o bethau newydd fyddwn i ddim fel arfer yn eu gwneud.”

I helpu i gyflwyno’r cwrs, mae’r Gwasanaeth Ieuenctid wedi cydweithio ag Ysgol Gynradd Awel y Môr i feddwl am ryseitiau ac Archfarchnad Filco ym Mhort Talbot i gael y nwyddau.

Mae’r holl ryseitiau ar gael ar ap Connectnptyouth sydd ar gael i’w lawrlwytho o siop Google Play neu siop Apple, neu drwy fynd i www.connectnptyouth.co.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle