Mae pump o aelodau Cyngor Ieuenctid Port Talbot wedi ennill etholiad ffug a gynhaliwyd yn rhithwir gan y Senedd fel rhan o Wythnos Pleidlais 16 ddydd Gwener diwethaf.
Gwnaeth eu parti gwleidyddol ffug, o’r enw Cymru Cydraddol, dderbyn 41% o gyfanswm y bleidlais, a benderfynwyd gan dros 100 o aelodau cynulleidfa rithwir.
Roedd Cymru Cydraddol yn un o bum sefydliad Ieuenctid yn unig a ddewiswyd ar gyfer y digwyddiad ‘Dewch i Ddadlau: Ffug Etholiad’ ar ôl cyflwyno maniffesto ffug llwyddiannus. Yn ystod y digwyddiad, roedd yn rhaid i bob aelod gyflwyno’i bolisïau ac ateb cwestiynau gan Teleri Glyn Jones, Gohebydd Gwleidyddol BBC Wales. Roedd eu polisïau’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, lles/tlodi ac addysg.
Mae pob un o’r pum aelod yn mynychu ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot: Stella Orrin (Canolfan Chweched Dosbarth Ysgol Gatholig San Joseff), Isabel Williams (Ysgol Gymunedol Cwmtawe), Lola Thair (Ysgol Gymunedol Cwmtawe), Bonnie Connor (Cwm Brombil) a Bethan Nicholas-Thomas (Ysgol Gymunedol Cwmtawe).
Pwrpas y digwyddiad oedd cynyddu ymwybyddiaeth am Etholiadau’r Senedd a gynhelir ar 6 Mai, sef y tro cyntaf y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yng Nghymru. Gall y rheini nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio wneud hynny ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, “Hoffwn longyfarch holl aelodau Cymru Cydraddol a oedd wedi cymryd rhan yn yr etholiad ffug. Mae’n llwyddiant mawr.
“Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn cael eu clywed a’u bod yn derbyn y cyfle i fynegi eu barn am faterion sy’n achosi pryder iddynt.
“Dyma pam byddwn yn annog pobl ifanc 16 ac 17 oed i gofrestru i bleidleisio mewn pryd ar gyfer etholiadau’r Senedd ar 6 Mai i sicrhau nad ydynt yn colli’r cyfle i fwrw pleidlais.”
Cefnogir y Cyngor Ieuenctid gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac maent yn cwrdd yn fisol i drafod materion gwahanol yn uniongyrchol â chynghorwyr. Mae’r Cyngor Ieuenctid yn cynnwys dros 25 o bobl ifanc o bob rhan o’r fwrdeistref sirol, gan gynnwys cynrychiolwyr o ysgolion a grwpiau eraill megis gofalwyr ifanc, cymunedau LGBTQ+ a Phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Ieuenctid a sut y gall pobl ifanc gymryd rhan, ewch i’w tudalen Facebook @NPTYouthService neu eu cyfrif Twitter @NPT_YS. Neu, lawrlwythwch eu ap newydd, Connectnptyouth, sydd ar gael i’w lawrlwytho o Google Play neu’r Apple Store, neu trwy fynd i www.connectnptyouth.co.uk.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle