Ffocws newydd ar atal salwch hefyd wrth wraidd gweledigaeth gwasanaeth Iechyd a Gofal Plaid
Bydd Plaid Cymru yn buddsoddi yn y gweithlu, gan gynnwys sicrhau cydraddoldeb triniaeth ar gyfer staff gofal os cael eu hethol i’r Llywodraeth ym mis Mai, meddai Gweinidog Iechyd Cysgodol, Rhun ap Iorwerth AS.
Wrth âddiolch oâr galonâ i weithwyr iechyd a gofal am eu gwaith yn ystod y pandemig, dywedodd y Gweinidog Iechyd Cysgodol na allai pethau fynd yn Ă´l i âsut yr oeddent oâr blaenâ a rhybuddiodd y byddai rhaid adeiladuân Ă´l yn well olygu bod âgwersi wedi cael eu dysguâ.
Yn siarad cyn Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru dywedodd Mr ap Iorwerth, er mwyn gallu taclo amseroedd aros hir, pwysau ar y gweithlu, a diagnosis a thriniaethau, byddaiâr blaid yn ymrwymo i adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol âcadarnâ a âgwydnâ â gan gychwyn ar hyfforddi a recriwtio 1,000 o ddoctoriaid a 5,000 o nyrsys newydd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Meddai Mr ap Iorwerth y byddai uchelgeisiau Plaid Cymru i âdrawsnewidâ iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer staff iechyd a gofal a chleifion yn ogystal yn cynnwys creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol ‘gwirioneddol ddi-dor’ – gyda gofal cymdeithasol am ddim a chynnydd cyflog gweithwyr gofal. Byddai hybiau lles ieuenctid yn dod â ffocws newydd i faterion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc.
Addawodd hefyd ffocws fel erioed o’r blaen ar fesurau ataliol i wneud Cymru yn genedl fwy iach.
Dwedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,
âMaeâr flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu problemau a oedd eisoes yn cael eu teimloân ddwfn o fewn iechyd a gofal gydag amseroedd aros, sydd eisoes yn rhy hir, bellach yn tyfu i lefelau hyd yn oed yn fwy brawychus.
âOs ydym am wirioneddol am dacloâr materion cronig syân trafferthu ein GIG – rhestrau aros hir, y pwysau ar weithwyr iechyd a gofal, oedi mewn triniaeth a diagnosis, ac i sicrhau bod ein GIG yn gwella oâr pandemig yna maeân rhaid i ni adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal mwy gwydn a chadarn.
âMae hyn yn dechrau gydag adeiladu gweithlu mwy gwydn ac i fynd iâr afael â materion cronig y gweithlu, bydd Plaid Cymru yn dechrau ar hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol a 5,000 o nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
âBydd Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol yn rhoiâr parch y maent yn eu haeddu i weithwyr gofal, gan eu rhoi ar yr un telerau ac amodau gweithio a graddfeydd cyflog â gweithwyr iechyd ochr yn ochr â gofal cymdeithasol am ddim – egwyddor rwyf wedi dyheu amdani ers amser maith, ac rwy’n bwriadu cyflawni hynny mewn Llywodraeth.
âAr gyfer bobl ifanc, byddwn yn darparu gofal iechyd gwell gyda rhwydwaith cenedlaethol o hybiau lles ieuenctid, gan roi cefnogaeth sydd fawr ei hangen ar faterion iechyd meddwl yn benodol â gan ddangos ein bod yn genedl ofalgar ar gyfer pob oedran.
âMae ein huchelgeisiau i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yn uchelgeisiau sy’n adlewyrchu anghenion a dyheadau’r gweithlu yn ogystal â chleifion. Rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun i wneud Cymru yn fwy gwydn a chynaliadwy, gan ganolbwyntio ar yr ataliol a chreu cenedl fwy iach ym mhob ystyr.â
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle