TUC Cymru: Mae’r Canghellor yn ‘gamblo gyda’r adferiad’

0
282
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

Wrth roi sylwadau ar ddatganiad cyllideb y canghellor Rishi Sunak heddiw, dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae’r canghellor yn gwneud peth peryglus yn mentro y gwnaiff yr economi fownsio’n ôl ar ei phen ei hun. Mae’n gamblo gyda’r adferiad pan dylai fod wedi gweithredu i greu swyddi.

“Rydyn ni’n wynebu dirwasgiad gwaethaf ein hoes. Dydyn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i’r buddsoddiad sydd ei angen arnom i atal diweithdra ac i ariannu’r buddsoddiad hirddisgwyliedig yn seilwaith Cymru, a allai greu degau o filoedd o swyddi gwyrdd o ansawdd da.

“Er ei fod yn rhywbeth i’w groesawu, mae’r estyniad munud olaf i’r ffyrlo yn dod i ben yn rhy fuan a bydd hynny’n peryglu swyddi a busnesau. Bydd torri’r credyd cyffredinol ym mis Hydref yn peryglu incwm teuluoedd. Ar ben hynny, mae methu sicrhau tâl salwch teilwng i bawb yn peri risg o fwy o heintiau a chyfnod clo arall.”

Lle mae’r gyllideb yn ddiffygiol

Mae’r gyllideb yn is o lawer na lefel y camau gweithredu y galwyd amdanynt yng nghyflwyniad cyllideb y TUC.

Nid yw’r gyllideb wedi cynyddu lefel gyffredinol y buddsoddiad cyhoeddus i sbarduno adferiad.

Roedd cyflwyniad cyllideb y TUC yn galw ar y canghellor i wneud y canlynol:

· Ymestyn y cynllun cadw swyddi hyd at ddiwedd 2021, a chyflwyno terfyn cyflog isaf i atal tâl ffyrlo rhag disgyn o dan yr isafswm cyflog

· Darparu’r cyllid sydd ei angen i gefnogi buddsoddiad o £6 biliwn mewn seilwaith gwyrdd yng Nghymru er mwyn creu 60,000 o swyddi dros y ddwy flynedd nesaf.

· Gwneud y cynnydd o £20 yr wythnos mewn credyd cynhwysol yn barhaol, a rhoi diwedd ar y cyfnod o bum wythnos mae’n rhaid i hawlwyr credyd cynhwysol newydd aros i gael eu talu.

· Pennu tâl salwch statudol drwy ei godi i £330 yr wythnos (i gyfateb i lefel y Cyflog Byw gwirioneddol) ac ymestyn y meini prawf cymhwyso i gynnwys y ddwy filiwn o weithwyr ar gyflog isel sydd wedi’u heithrio o’r Tâl Salwch Statudol ar hyn o bryd.

· Codi’r isafswm cyflog cenedlaethol i o leiaf £10 yr awr.

· Cynyddu budd-dal plant a chredyd treth plant a dileu’r terfyn dau blentyn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle