Cynhelir digwyddiad rhithiwr am ddim ‘Dewiswch Eich Dyfodol’ ar 10 ac 11 Mawrth i ddarparu cymorth gyrfaoedd hanfodol i fyfyrwyr Blynyddoedd 9 ac uwch yng ngorllewin Cymru.
Gall y cyfnod hwn fod yn un dryslyd a beichus i ddisgyblion y blynyddoedd hyn sy’n wynebu gwneud dewisiadau a all effeithio ar eu llwybrau addysgol a galwedigaethol yn y dyfodol.
Bydd y sesiwn rithwir yn gyfle i’r rhai sy’n mynychu ddysgu mwy am y byd gwaith a sectorau blaenoriaeth yng ngorllewin Cymru, a’u galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys.
Bydd cyfle i’r rhai sy’n mynychu wrando ar arbenigwyr mewn diwydiant, darganfod mwy am y gwahanol swyddi a chyfleoedd yn y diwydiannau hyn, yn ogystal â gofyn cwestiynau uniongyrchol i gyflogwyr lleol a fydd yn mynychu’r digwyddiad.
Ymysg y cyflogwyr mae Bluestone National Park Resort, Castell Howell Foods, RWE Renewables a Carmarthenshire Construction Training Association Ltd (CCTAL).
Drwy gydol y dydd, cynhelir sesiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân a bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar y saith sector blaenoriaeth ar gyfer yr ardal ac yn para am dri chwarter awr.
Dyma’r amseroedd a’r manylion:
Gweithio yn y sector adeiladu
10 Mawrth 9.10am – 9.55am: Sesiwn Gymraeg
11 Mawrth 9.10am – 9.55am: Sesiwn Saesneg
Gweithio yn y sector creadigol, digidol a TGCh
10 Mawrth 10.05am – 10.50am: Sesiwn Gymraeg
11 Mawrth 10.05am – 10.50am: Sesiwn Saesneg
Gweithio yn y sector deunyddiau uwch a gweithgynhyrchu
10 Mawrth 11am – 11.45am: Sesiwn Gymraeg
11 Mawrth 11am – 11.45am: Sesiwn Saesneg
Gweithio yn y sector bwyd a thir
10 Mawrth 11.55am – 12.40pm: Sesiwn Gymraeg
11 Mawrth 11.55am – 12.40pm: Sesiwn Saesneg
Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
10 Mawrth 13.20pm – 14.05pm: Sesiwn Gymraeg
11 Mawrth 13.20pm – 14.05pm: Sesiwn Saesneg
Gweithio yn y sector twristiaeth, hamdden a manwerthu
10 Mawrth 14.15pm – 3pm: Sesiwn Gymraeg
11 Mawrth 14.15pm – 3pm: Sesiwn Saesneg
Gweithio yn y sector cyllid a phroffesiynol
10 Mawrth 13.20pm – 14.05pm: Sesiwn Gymraeg
11 Mawrth 13.20pm – 14.05pm: Sesiwn Saesneg
Gellir cael mynediad uniongyrchol at y sesiynau ar y diwrnod drwy Microsoft Teams, ac nid oes angen cofrestru ymlaen llaw.
Meddai Mark Owen, Pennaeth Gwasanaethau i Randdeiliaid Gyrfa Cymru “Mae cyfyngiadau Covid-19 yn parhau i atal unrhyw ffeiriau gyrfaoedd neu ddigwyddiadau tebyg rhag cael eu cynnal.
“Rydym yn falch iawn o allu cynnal y digwyddiad hwn ar-lein er mwyn sicrhau na fydd pobl ifanc yn colli cyfleoedd pwysig i ehangu eu gorwelion o ran eu gyrfa a’u dewisiadau yn y dyfodol.
“Drwy ddod â disgyblion ysgol ac arbenigwyr a chyflogwyr mewn diwydiant ynghyd, rydym yn gobeithio ein bod yn gallu helpu i annog ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddilyn y llwybr gyrfa sydd fwyaf addas ar eu cyfer.”
I gael mwy o wybodaeth ac i gael mynediad at y digwyddiadau, ewch i’r dudalen ddigwyddiadau benodedig ar wefan Gyrfa Cymru.
Noder, efallai bydd rhaid lawrlwytho’r ap Teams er mwyn gwylio’r sesiwn ar ddyfais llechen neu ffôn.
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |













