Annog gofalwyr di-dâl cymwys i gofrestru ar gyfer brechlyn COVID-19

0
853

Gofynnir i ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro nad ydynt eisoes wedi cofrestru fel gofalwr gyda’u practis meddyg teulu lenwi ffurflen gofrestru ar-lein os ydynt yn dymuno derbyn brechiad COVID-19.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi argymell bod gofalwyr di-dâl yn gymwys i gael brechlyn COVID-19 fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6, yn ddarostyngedig i feini prawf cymhwysedd penodol.

Mae canllawiau cenedlaethol diwygiedig gan y JCVI yn disgrifio gofalwyr di-dâl fel y rhai sy’n gymwys i gael lwfans gofalwr, neu’r rheini sy’n unig neu’n brif ofalwr unigolyn oedrannus neu anabl sydd mewn mwy o berygl o farwolaethau COVID-19 ac felly’n agored i niwed yn glinigol.

Mae’r rhai sy’n agored i niwed yn glinigol i COVID-19 yn cynnwys plant â niwro-anableddau difrifol, y rhai sydd wedi’u dynodi’n Glinigol Fregus (CEV), oedolion sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol, a’r rhai sydd angen gofal oherwydd oedran. Dylai gofalwyr cymwys gael eu brechu yng ngrŵp blaenoriaeth 6.

Dywedodd Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rhan hanfodol yn cynnig gofal a chefnogaeth ac mae er budd pawb eu bod yn cael eu cefnogi.

“Ers blynyddoedd bellach, mae’r bwrdd iechyd wedi adeiladu cysylltiadau cryf â gofalwyr di-dâl ar draws ein tair sir trwy fentrau fel ein cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, a ddyluniwyd i helpu sefydliadau i ganolbwyntio ar, a gwella, ymwybyddiaeth eu gofalwyr a’r help a’r gefnogaeth a roddant. i ofalwyr.

“Mae dros 10,000 o ofalwyr di-dâl wedi cofrestru gyda meddygfeydd teulu neu’r awdurdod lleol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ond rydyn ni’n gwybod bod llawer mwy o bobl allan yna nad ydyn nhw efallai’n cydnabod eu hunain fel gofalwr di-dâl ac nad ydyn nhw’n ymwybodol bod cefnogaeth ar gael iddyn nhw, gan gynnwys eu cymhwysedd i gael brechlyn COVID-19.”

Os ydych chi’n credu y gallech fod yn gymwys, yn 16 oed neu’n hŷn ac nad ydych wedi’ch cofrestru fel gofalwr di-dâl gyda’ch meddyg teulu, cwblhewch y ffurflen ar-lein hon https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/gwybodaeth-i-ofalwyr/brechlyn-covid-i-ofalwyr-di-dal-ffolder/brechlyn-covid-i-ofalwyr-di-dal/ i gofrestru’ch manylion. Gall pobl heb fynediad i’r rhyngrwyd gysylltu â’r bwrdd iechyd ar 0300 303 8322.

Cysylltir yn uniongyrchol â’r rhai sydd eisoes wedi’u cofrestru fel gofalwr di-dâl gyda meddyg teulu i dderbyn brechiad COVID ac nid oes angen iddynt wneud unrhyw beth pellach.

Arhoswch i gael eich gwahodd am eich brechiad a pheidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu neu fwrdd iechyd i ofyn am eich apwyntiad brechlyn. Cysylltir â chi pan fydd eich tro chi, diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.

I ddarganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ewch i Gwybodaeth i ofalwyr – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle