“Pan fyddwn yn sefyll gyda’n gilydd, yn unedig fel un gymuned, gallwn wneud byd o wahaniaeth i fynd i’r afael â throseddau casineb yn ein cymdeithas.”

0
317

Jane Hutt ar lansiad ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’

“Pan fyddwn yn sefyll gyda’n gilydd, yn unedig fel un gymuned, gallwn wneud byd o wahaniaeth i fynd i’r afael â throseddau casineb yn ein cymdeithas.”

Jane Hutt ar lansiad ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’

Mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth a rhoi gwybod am droseddau casineb yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru heddiw yn lansio ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’, yr ymgyrch troseddau casineb gyntaf i gael ei datblygu a’i lansio yng Nghymru.

Croesawodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt ddatblygiad yr ymgyrch a thynnodd sylw at yr angen am i bawb sefyll gyda’i gilydd i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb a sicrhau bod yr heddlu’n cael gwybod bob amser am unrhyw ddigwyddiadau.

Dywedodd Jane Hutt:

“Yn anffodus, mae’r troseddau casineb y rhoddir gwybod amdanynt yng Nghymru a Lloegr yn rhy gyffredin o lawer. Ar draws pedair ardal Heddlu Cymru, cofnodwyd 4,023 o droseddau casineb yn 2019-20, gyda’r mwyafrif yn gysylltiedig â chasineb hiliol (2,634 neu 65%). Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn pwysleisio’r angen am godi ymwybyddiaeth, cefnogi dioddefwyr a sicrhau bod yr Heddlu’n cael gwybod am bob trosedd casineb.”

Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud:

“Pan fyddwn ni’n sefyll gyda’n gilydd, yn unedig fel un gymuned, gallwn wneud byd o wahaniaeth i fynd i’r afael â throseddau casineb yn ein cymdeithas ni. Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn taflu goleuni ar senarios o fywyd go iawn y mae unigolion wedi’u profi, ar gyfryngau cymdeithasol ac ar y teledu.

“Un o gryfderau pennaf ein cenedl ni yw pan fydd un gymuned yn cael ei thargedu gan ragfarn, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w herio. Boed yn hiliaeth, gwrth-Semitiaeth, Islamoffobia, homoffobia, trawsffobia, rhagfarn gwrth-anabledd, neu unrhyw fath arall o gasineb, rhaid i ni uno i ddangos na fydd Cymru’n ei oddef.

“Does dim lle i gasineb nac unrhyw fath o ragfarn yng Nghymru.”

Dywedodd Jess Rees, Rheolwr Troseddau Casineb Cymru yng Nghanolfan Adrodd a Chefnogaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb:

“Gall troseddau casineb gael effaith hynod ddinistriol ar ddioddefwyr gan eu bod yn ymosodiadau personol iawn ar ran o’u hunaniaeth. Ac eto, mae’n cael ei danadrodd ar raddfa enfawr gan fod y dioddefwyr yn aml yn ofni na fyddant yn cael eu cymryd o ddifrif neu’n poeni bod y digwyddiad yn ‘rhy ddibwys’ i roi gwybod amdano.

“Rydym yn falch o gefnogi ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ ac rydym yn croesawu ymdrechion i fynd i’r afael â throseddau casineb yn y gymuned. O’n profiad ni, rydym wedi gweld llawer gormod o ddioddefwyr wedi’u heffeithio’n ddifrifol, yn emosiynol ac yn gorfforol, ac mae’n bwysig iawn bod pobl yn gwybod bod troseddau casineb yn droseddau difrifol.

“Os yw pobl wedi rhoi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiad ai peidio, mae Cymorth i Ddioddefwyr yma i helpu dioddefwyr sydd wedi’u heffeithio gan droseddau casineb, pryd bynnag bydd arnynt angen hynny. Ni ddylai unrhyw un deimlo mewn perygl oherwydd y llu o droseddau casineb.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle