TUC Cymru: Nid dim ond y dosbarth canol ddylai elwa o’r chwyldro gweithio o bell

0
342
Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

· Mae ymchwil newydd gan TUC Cymru/YouGov yn dangos rhaniad clir rhwng y dosbarthiadau yn agweddau gweithwyr at weithio gartref ar ôl i gyfyngiadau Covid gael eu codi.

· Mae 61% o weithwyr dosbarth canol yn dweud eu bod yn awyddus i barhau i weithio gartref o leiaf rhan o’r amser. Ond dim ond 33% yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer pobl o gartrefi dosbarth gweithiol.

· Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ei hymgyrch i gefnogi gweithio o bell yn atgyfnerthu’r anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli rhwng dosbarthiadau yn y farchnad lafur.

Yn dilyn adroddiad y Senedd heddiw ar ddyfodol gweithio o bell yng Nghymru, mae TUC Cymru yn galw am i unrhyw fuddsoddiad mewn gweithio o bell neu weithio gartref gael ei gyfateb â buddsoddiad i helpu’r rheini nad ydynt yn gallu gwneud eu gwaith gartref. Gallai hyn gynnwys mesurau fel cymorth i dalu costau cludiant cyhoeddus, ymgysylltu â gweithwyr ynghylch lleoliad cyfleusterau gofal plant, neu hyd yn oed newid dalgylchoedd ysgolion i ystyried lle mae pobl yn gweithio yn ogystal â byw.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae gweithio gartref a gweithio o bell yn dwyn llawer o fanteision i lawer o weithwyr, a bydd llawer o bobl yn awyddus i barhau i weithio fel hyn neu mewn model sy’n cyfuno ar ôl i’r pandemig ddod i ben.

“Ond mae’n rhaid i ni ddilyn model sy’n grymuso gweithwyr i wneud y penderfyniad sy’n gweddu orau i’w hanghenion, ac ni allwn gymryd yn ganiataol y bydd buddsoddiad cyhoeddus yn arwain at ganlyniadau tecach oherwydd bod y bwriadau’n rhai da. Nid dyma sut mae ein marchnad lafur yn gweithio.

“Yn lle hynny, mae angen i ni fod yn agored iawn am yr heriau sy’n gysylltiedig ag ymyrryd yma, a sefydlu mecanweithiau hefyd i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu clywed ar hyd y ffordd. Fel arall, mae perygl i ni greu mwy o fraint a mwy o anfanteision.”

Canfu pôl piniwn newydd a gynhaliwyd gan YouGov ar ran TUC Cymru:

· Fod 42% o weithwyr yn dweud eu bod yn awyddus i barhau i weithio gartref o leiaf rhan o’r amser.

· Dim ond 9% oedd yn dweud eu bod eisiau gweithio eu holl oriau arferol o’u cartrefi.

· Wrth ddadansoddi hyn yn ôl dosbarth cymdeithasol, mae’r canlyniadau’n dangos rhaniad clir rhwng dosbarthiadau. Dywedodd 61% o aelwydydd ABC1 eu bod yn awyddus i barhau i weithio gartref am o leiaf rhywfaint o’r amser ar ôl y pandemig, ond dim ond 33% ddywedodd hyn o aelwydydd C2DE.

· Dywedodd 17% o’r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg y byddent yn debygol o weithio o ganolfan gweithio o bell ar ôl y pandemig am o leiaf un diwrnod yr wythnos.

Mewn ymchwil a oedd yn edrych ar sut roedd patrymau gweithio wedi newid yn ystod y cyfnod clo cyntaf, gwelwyd bod y rheini sy’n gweithio gartref yn unig yn fwy tebygol o fod yn raddedigion ac mewn swyddi sy’n talu’n well hefyd. Roedd y rheini mewn grwpiau galwedigaethau â chyflogau is yn tueddu i fod yn llawer llai tebygol o weithio gartref – dim ond tua 1 o bob 5 o’r rheini mewn galwedigaethau elfennol oedd yn gweithio gartref. Roedd 84% o’r rheini a oedd â lefelau isel o gymwysterau ffurfiol yn gweithio y tu allan i’w cartrefi.

Daw galwad TUC Cymru yn dilyn cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd ar weithio o bell. Mae’r adroddiad hwnnw’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi’n glir beth yw effaith economaidd-gymdeithasol ei pholisi gweithio o bell newydd, a mynd i’r afael â phryderon mai dim ond gweithwyr cefnog a fyddai’n elwa’n bennaf.

Ychwanegodd Shavanah Taj:

“Mae’r newid mawr i weithio o bell yn ystod y pandemig wedi bod o fudd anghymesur i bobl dosbarth canol – felly mae angen i ni ganolbwyntio’n glir ar sut gallwn ni wneud yn siŵr bod yr ymyriadau yn y farchnad lafur yn wirioneddol gynhwysol, ac nad ydynt yn creu mwy o fraint.

“Does dim modd gwneud llawer o swyddi gartref. Ac mae llawer o’r swyddi hyn yn cael eu gwneud gan y rheini a oedd yn dal i fynd allan i weithio drwy gydol y pandemig i redeg ein gwasanaethau iechyd, i ddarparu bwyd i ni ac i sicrhau bod ein cyfleustodau’n gweithio.

Mae’n gwbl briodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych yn awr ar sut y gallwn roi cymorth i fwy o bobl os ydynt am weithio o bell, ond dylai hynny fod yng nghyd-destun set ehangach o fesurau sy’n gwneud gwaith yn haws i bawb.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle