Arweinydd Plaid yn gwrthod talu dirwy COVID

0
328
Neil McEvoy AM

https://www.facebook.com/neiljmcevoy/videos/438048234124733

Mae Arweinydd Propel, Neil McEvoy AS, wedi dweud ei fod am wrthod talu dirwy COVID a roddwyd iddo am, fe honnir, dorri deddfau’r Firws Corona.

Mae Mr McEvoy wedi dweud na thorrodd unrhyw ddeddfau ac y bydd yn mynd i’r llys i ymladd gosod y ddirwy. Yn ogystal, fe gyhuddodd Heddlu De Cymru o ymyrraeth wleidyddol cyn etholiadau Senedd Cymru ar Fai’r 6ed.

Ymwelodd Heddlu De Cymru â swyddfa etholaeth Seneddol Mr McEvoy i’w hysbysu am ei hawliau a chyhoeddi’r ddirwy, gan honni iddo dorri’r gyfraith trwy ddosbarthu taflenni gwleidyddol yn etholaeth Gorllewin Caerdydd.

Roedd yr heddlu eisoes wedi ymweld â’i gartref i geisio ei rybuddio ynghylch yr un drosedd honedig.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw gwirfoddolwyr i fod i ddosbarthu taflenni, er bod hawl dosbarthu taflenni mewn amgylchiadau eraill, gan gynnwys dosbarthu gan yr heddlu eu hunain. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi newid y canllawiau i ganiatáu i daflenni gwleidyddol gael eu dosbarthu gan wirfoddolwyr.

https://www.facebook.com/100044611441471/videos/263271105327129

Ond Mr McEvoy yn mynnu nad yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn gyfraith ac felly ni allai fod wedi torri’r gyfraith.

Dywedodd Mr McEvoy:

“Nid yw hyn yn ddim mwy nag ymyrraeth gan yr heddlu yn y broses wleidyddol ar drothwy etholiad.

“Dyma’r trydydd tro i Heddlu De Cymru ymweld â mi yn ystod yr wythnosau diwethaf am waith dwi’n ei wneud yn rhinwedd fy swydd.

“Ni fyddaf yn talu’r ddirwy gan nad wyf wedi torri unrhyw ddeddfau. Mae angen i’r heddlu ddeall eu bod yno i gynnal y gyfraith, nid aflonyddu gwleidyddion ar sail canllawiau Llywodraeth Cymru. Y gwir yw nad oes unman yn rheoliadau Firws Corona sy’n dweud ei bod yn bod yn anghyfreithlon i wleidyddion ddosbarthu taflenni etholiadol.

“Dim ond gwneud fy ngwaith ydw i. Mae angen i mi allu cysylltu â’r cyhoedd a rhoi gwybod iddynt sut y gallent gysylltu â mi.

“Rwy’n bryderus iawn am yr hyn sy’n digwydd i’n democratiaeth nawr. Roeddem i fod i ymladd firws ond mae’n ymddangos bod ein hawliau sifil yn cael eu crebachu fyth a beunydd. Mae angen i’r heddlu fynd yn ôl i ymladd troseddau, heb wastraffu amser yn cymhwyso dirwyon yn erbyn pobl sy’n ymddwyn yn gyfreithlon.

“Ni fyddaf yn talu’r ddirwy anghyfiawn hon a byddaf yn mynd â hyn i’r llys. Mae gwir angen i Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru ystyried ei safbwynt os mai dyma’i flaenoriaethau plismona.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle