Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl ifanc am berygl heintiau sy’n gysylltiedig â thatŵio a thyllu’r corff eich hun

0
328

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a sefydliadau partner yn ardal Sir Gaerfyrddin i ymchwilio i nifer fach o ddigwyddiadau iechyd cyhoeddus sy’n deillio o datŵio a thyllu’ch hun.

Dywedodd Dr Rachel Andrew, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chadeirydd y tîm Rheoli Digwyddiadau:

“Hoffwn rybuddio pobl ifanc yn ardal Sir Gaerfyrddin i fod yn ymwybodol o’r risg o haint bod pecynnau tatŵio a thyllu’r corff eich hun fel ‘Stick and Poke’ yn ei pheri i’w hiechyd.

“Mae pecynnau tatŵio a thyllu’r corff eich hun sydd ar gael ar-lein, a thuedd sy’n dod i’r amlwg o fideos ar y cyfryngau cymdeithasol megis TikTok a Youtube, wedi arwain at nifer o ddigwyddiadau iechyd cyhoeddus yn ymwneud â phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin yn yr wythnosau diwethaf.

“Gall unrhyw datŵio neu dyllu beri risg o niwed, gan gynnwys heintio’r croen a haint o ran feirysau a gludir yn y gwaed fel Hepatitis B, Hepatitis C a HIV.

“Mae’r risgiau iechyd hyn yn cynyddu’n sylweddol wrth datŵio a thyllu’r corff eich hun neu datŵio a thyllu heb drwydded, a phan na ddilynir arferion hylendid da – megis peidio â rhannu nodwyddau ac offer sydd wedi’u halogi â hylifau’r corff.

“Rydym eisiau helpu pobl ifanc i wneud dewis gwybodus am datŵio a thyllu’r corff, ac i ddeall y risg maen nhw’n ei hwynebu o gael haint diangen a difrifol o ganlyniad.

“Nid yw’r GIG yma i farnu, dim ond i amddiffyn. Byddwn yn cynghori’n gryf bod unrhyw berson ifanc sydd wedi tatŵio neu dyllu’r corff ei hun – boed hynny drwy ddefnyddio pecyn ai peidio – yn ceisio cyngor a thriniaeth feddygol gan ei ddarparwr Gofal Iechyd arferol.

“I rieni pobl ifanc a phobl ifanc eu hunain a allai fod wedi bod yn rhan o unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, gofynnwn iddynt gysylltu â’u darparwr Gofal Iechyd arferol fel y gallant geisio cyngor a thriniaeth feddygol gan gynnwys brechu rhag haint a phrawf gwaed.

“Rwyf hefyd am atgoffa’r holl bobl ifanc bod tatŵio rhywun sydd o dan 18 oed yn anghyfreithlon yng Nghymru, hyd yn oed gyda chaniatâd rhiant neu warcheidwad.”

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae ein swyddogion Addysg ac Iechyd yr Amgylchedd yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i nodi unrhyw unigolion eraill a allai fod wedi bod yn rhan o’r digwyddiadau rydym yn ymwybodol ohonynt, fel y gellir cysylltu â nhw a’u cynghori i geisio triniaeth feddygol. Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw fanylion pellach am achosion unigol nac yn darparu gwybodaeth a allai arwain at adnabod unigolion.

“Mae ein tîm Iechyd yr Amgylchedd yn rheoleiddio trwyddedu safleoedd cymeradwy yn ofalus er mwyn sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu cynnal yn gyfreithlon ac yn ddiogel. Hoffem atgoffa pobl ei bod yn anghyfreithlon tatŵio unrhyw un o dan 18 oed. Os yw pobl 18 oed a throsodd eisiau cael eu tatŵio neu eu tyllu, rydym yn eu hannog i wneud hynny’n ddiogel ac ymweld â sefydliad proffesiynol a thrwyddedig.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle