Rhybudd Sgam

0
640

RHYBUDD TWYLL | Ar adeg pan mae mwy a mwy o bobl yn siopa bwyd ar-lein neu’n defnyddio’r gwasanaeth clicio a chasglu, mae nifer ohonoch wedi dweud wrthym eich bod chi wedi derbyn galwadau twyllodrus gan dwyllwyr yn esgus eu bod nhw’n galw ar ran archfarchnad Tesco.

Mae’r alwad awtomataidd yn dweud bod eich archeb wedi’i gosod gyda Tesco ac y bydd £350 yn cael ei ddebydu ar eich cyfrif. Mae’r alwad yn mynd ymlaen i ddweud, “Os yw’r swm hwn yn anghywir, gwasgwch 1 i gael eich cysylltu â’n tîm twyll.”

 galwad o’r fath, os fyddwch chi’n gwasgu ‘1’, bydd y twyllwr yn ceisio cael cymaint o fanylion personol â phosibl wrthych, gan gynnwys eich manylion banc.

Mae’r troseddwyr hyn yn glyfar, ac yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud. Byddant yn aml yn ymddangos yn ddilys. Os fyddwch chi’n derbyn galwad o’r fath, y peth gorau i wneud yw rhoi’r ffôn i lawr a gwirio’ch cyfrif Tesco ar-lein eich hun, neu ffonio Tesco’n uniongyrchol gan ddefnyddio rhif yr ydych wedi ei gael.

Medrwch helpu i amddiffyn eich hun rhag twyll o’r fath drwy ddilyn y cyngor canlynol:
• Peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol neu ariannol i unrhyw un sy’n eich galw’n ddirybudd.
• Peidiwch â dilyn unrhyw ddolenni os yw’r troseddwyr yn eu hanfon drwy neges destun neu e-bost. Bydd y rhain yn eich tywys i safleoedd ffug sydd wedi’u creu i edrych yn ddilys.
• Peidiwch byth â derbyn neu lawrlwytho unrhyw feddalwedd o bell i’ch cyfrifiadur sy’n rhoi mynediad i bobl eraill.
• Peidiwch â mewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein os ydych chi wedi gosod meddalwedd mynediad o bell, neu mae perygl gwirioneddol y byddwch chi’n colli’ch arian.
• Os oes rhywun yn eich galw’n ddirybudd ac yn gofyn ichi lawrlwytho ap mynediad o bell neu’n gofyn am fynediad o bell i’ch cyfrif banc – gorffennwch yr alwad.
• Os ydych chi wedi derbyn galwad o’r fath ac wedi cael mynediad i’ch cyfrif neu wedi trosglwyddo arian – cysylltwch â’ch banc gan ddefnyddio’r rhif sydd ar gefn eich cerdyn banc bob amser. Peidiwch byth â defnyddio rhif yr ydych wedi ei dderbyn gan y galwr.
• Cofiwch ATAL-HERIO-DIOGELU bob amser.

Medrwch adrodd am unrhyw ddigwyddiadau lle’r ydych chi wedi dioddef y math hwn o dwyll inni:

http://orlo.uk/atyB8
| 101@dyfed-powys.pnn.police.uk
| 101


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle