Goleuo tirnodau cenedlaethol ledled Cymru a Lloegr yn borffor i ddathlu Cyfrifiad 2021

0
417

Bydd cannoedd o adeiladau a thirnodau ledled Cymru a Lloegr yn cael eu goleuo’n borffor y penwythnos hwn i ddathlu’r cyfrifiad a’i bwysigrwydd i gymunedau.

Caiff y digwyddiad ei drefnu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth, sef arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac sy’n rhoi darlun o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.

Census purple light u - Blackpool Tower lit up in purple

Bydd tirnodau eiconig, gan gynnwys Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, Tŵr BT yn Llundain a Thŵr Blackpool yn ymuno yn y dathliad, lle cânt eu goleuo yn lliw brand Cyfrifiad 2021 o ddydd Gwener 19 Mawrth tan 21 Mawrth.

Mae’r cyfrifiad yn helpu i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig, fel penderfynu ar y nifer priodol o leoedd mewn ysgolion a gwelyau mewn ysbytai sydd eu hangen er mwyn gwasanaethu cymunedau’n iawn.

Census purple light up - Lincoln Cathedral lit up in purple.

Dywedodd Pete Benton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Cyfrifiad SYG:

“Mae’r cyfrifiad yn ddigwyddiad hollbwysig sy’n helpu i lywio’r gwasanaethau hanfodol mae pawb yn dibynnu arnyn nhw bob dydd yn ein cymunedau.

“Roeddem am daflu goleuni (porffor!) ar yr adeiladau a’r tirnodau sydd o’r pwys mwyaf i’w hardaloedd lleol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd y cyfrifiad wrth helpu i lunio’r cymunedau rydym ni’n byw ynddynt.

“Rydym ni wrth ein bodd â’r holl gefnogaeth rydym wedi’i chael hyd yn hyn a hoffem ddiolch i’r holl adeiladau a thirnodau am gymryd rhan. Nawr yw’r amser i bawb gwblhau eu cyfrifiad a bod yn rhan o hanes.”

Census purple light up - Clacton pier lit up in purple

Dylai pob cartref yng Nghymru a Lloegr fod wedi cael llythyr am y cyfrifiad sy’n cynnwys cod mynediad unigryw er mwyn llenwi holiadur y cyfrifiad ar lein.Diwrnod y Cyfrifiad yw 21 Mawrth, ond gallwch chi lenwi eich ffurflen chi cyn gynted ag y byddwch chi wedi cael eich llythyr os ydych chi’n hyderus na fydd newid o ran pwy sy’n byw yn eich cartref fel arfer.Mae ffurflenni papur ar gael os bydd angen, yn ogystal ag amrywiaeth o gymorth arall. Os bydd angen help arnoch chi, neu i ofyn am ffurflen bapur, ewch i’n gwefan www.cyfrifiad.gov.uk. Mae canolfan cymorth y cyfrifiad (rhadffôn 0800 169 2021 yng Nghymru a 0800 141 2021 yn Lloegr) ar gael os na allwch chi ddod o hyd i’r help sydd ei angen arnoch chi ar lein.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyfrifiad 2021, ewch i https://cyfrifiad.gov.uk/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle