Flwyddyn yn ddiweddarach – myfyrdodau’r Cadeirydd a chanolbwyntio ar adferiad

0
662

Mae Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n cynllunio a’n darparu’r rhan helaeth o ofal y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, wedi bod yn myfyrio ar y flwyddyn a aeth heibio ers y cyfarwyddyd cyntaf i aros gartref mewn ymateb i bandemig COVID-19:

“Bydd y diwrnod o fyfyrio ar draws y DU ar ddydd Mawrth 23 Mawrth 2021 yn ddiwrnod ingol.

Mae teuluoedd sydd wedi colli rhywun annwyl naill ai’n uniongyrchol i COVID-19, neu yn ystod y pandemig, yn byw bob dydd gyda’u galar a’u colled personol. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn unig, mae 474 * o bobl wedi marw o COVID-19 ers dechrau’r pandemig.

Rhai annwyl a gollwyd cyn eu hamser.

Rydym yn meddwl am y rhai sydd mewn galar ac yn cydymdeimlo â nhw ar yr adeg hon. Y gobaith yw y bydd y diwrnod hwn o fyfyrio cenedlaethol yn dangos bod eu hanwyliaid yn cael eu cofio.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, byddwn yn ymuno ag eraill ledled y DU mewn munud o dawelwch am hanner dydd ddydd Mawrth, i gofio’r rhai a gollwyd. Bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu, ond bydd yr hyn y gellir ei oedi yn cael ei oedi. Byddwn yn cymryd yr eiliadau hynny yn breifat, neu ar y cyd gyda’n cydweithwyr, i gofio mewn tawelwch ac i dalu teyrnged.

Mae gwasanaeth coffa ar-lein wedi’i drefnu i’n staff ar y diwrnod hwn, felly mae gan y rhai sy’n dymuno dod at ei gilydd le i wneud hynny, er nad yn gorfforol ond yn ysbryd undod.

Fel bob amser, gall staff fynychu capeli ein hysbytai os oes angen lle arnynt i orffwys neu adfer, ac fe’u gwahoddir i gynnau canhwyllau batri, a ariennir gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, sydd wedi’u dosbarthu ar draws ein safleoedd a’n gwasanaethau cymunedol.

Gall y weithred syml o gynnau cannwyll oleuo’r emosiynau y gallem fod yn eu profi – o boen parhaus, dioddefaint a phryder, i deyrnged, gobaith a diolchgarwch – am yr ymateb arwrol gan lawer o bobl yn ein cymunedau.

Fe’n gwahoddir hefyd i ddisgleirio ffagl i awyr y nos am 8pm trwy ddefnyddio ein ffonau, canhwyllau neu fflachlampau; a bydd ein partneriaid mewn awdurdodau lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn goleuo adeiladau tirnod yn ein hardal ar gyfer y diwrnod hwn o fyfyrio.

Ond ochr yn ochr â choffadwriaeth a myfyrio, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rydym hefyd wedi troi ein sylw at yr adferiad a’r dysgu sy’n angenrheidiol wrth i ni ddechrau dod allan o’r pandemig fel y profwyd hyd yn hyn.

Rydym mor falch o’r staff (rheng flaen a chefnogi), a phartneriaid, sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y misoedd diwethaf i ddosbarthu brechlynnau i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl er wmyn achub bywydau ac amddiffyn ein poblogaeth, fel y gallwn gymryd y camau hyn ymlaen.

Rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan ein cymunedau sydd wedi torchi eu llewys. Boed hynny wedi bod mewn rolau gweithwyr allweddol eraill, trwy aros gartref, cysgodi, addysgu gartref, neu wrth gefnogi eu cymunedau mewn ffyrdd eraill, megis gwirfoddoli a gweithredoedd o garedigrwydd. Ac mae pobl wedi dod ymlaen i gael eu brechu mewn niferoedd anghredadwy, i amddiffyn eu hunain, eu hanwyliaid a’u cymunedau.

Ar Fawrth 17 2021, rydym wedi rhoi cyfanswm o 175,893 o frechiadau, sy’n cynryhcioli 39.5% o’n poblogaeth wedi derbyn eu dos cyntaf ac mae 5.9% o bobl wedi cael eu hail ddos a’u cwrs llawn.

Rydym ar y trywydd iawn i gynnig brechiad i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf, yn amodol ar dderbyn cyflenwadau fel y cynlluniwyd.

Mae’r cyflawniad rhyfeddol hwn yn rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol wrth i ni barhau i weithio tuag at ein gweledigaeth ar gyfer canolbarth a gorllewin iachach. Ond mae gennym lawer o waith i’w wneud i ailadeiladu, a llawer o ddysgu i’w ystyried.

Rydym yn ymwybodol iawn o’r effaith niweidiol, er enghraifft pobl sy’n aros am lawdriniaethau wedi’u cynllunio yn llawer hirach nag yr hoffem. Rydym wedi ysgrifennu at bob claf sydd wedi aros mwy na 52 wythnos i ymddiheuro ac egluro ac i sicrhau bod ein rhestrau aros yn gywir fel y gellir gwneud penderfyniadau clinigol wrth i ni ail-gychwyn gofal nad yw’n fater brys. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ail-gychwyn ac ehangu gwasanaethau gofal wedi’i gynllunio: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/restarting-services/

Rydym yn cychwyn ar brosiect peilot i gynnig un pwynt cyswllt a chymorth ychwanegol i grŵp penodol o gleifion (yn yr achos hwn, grŵp o gleifion orthopedig) fel eu bod yn cael eu cefnogi i edrych ar ôl eu hunain a bod yn barod am lawdriniaeth, ac yn gallu cydnabod ac adrodd ar unrhyw newidiadau sylweddol i’w sefyllfa glinigol.

Mae cyngor cyffredinol i bobl ar sut i aros yn iach wrth aros am lawdriniaeth, a all wella canlyniadau ar ôl llawdriniaeth, ar gael yma: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/preparing-for-treatment-lifestyle-advice/

Heb y pandemig fodd bynnag, mae’n annhebygol y byddem wedi profi’r cyflymder mewn galluogi datblygiadau digidol a gofal yn y gymuned yr ydym wedi gallu eu darparu yng nghartrefi pobl eu hunain, neu’n agosach atynt.

Er enghraifft, ym mis Mawrth y llynedd dim ond 1% o apwyntiadau cleifion allanol a gynhaliwyd ar-lein, ond ym mis Ionawr eleni, cynhaliwyd 28% o apwyntiadau cleifion allanol yn y modd hwn, gydag adborth da gan gleifion.

Rydym hefyd yn siarad â staff am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain gan ein bod yn cydnabod bod angen iddynt hwythau orffwys ac adfer ar ôl eu hymdrechion enfawr dros gyfnod hir. Er mwyn ailadeiladu’n gryfach, mae angen sylfaen gadarn arnom ac mae hynny’n dechrau gyda’n staff sy’n darparu neu’n galluogi’r gofal a ddarparwn.

Rydym eisoes yn cynnig ystod o gefnogaeth seicolegol a llesiant i’n gweithwyr ond rydym yn ceisio deall yn well yr hyn y maent ei eisiau a’i angen gennym o ganlyniad i’r pandemig hwn.

Yn dilyn etholiadau’r Senedd, byddwn hefyd yn mynd ati i weld sut mae pethau yn ein cymunedau ac yn cynnig sgwrs am y pandemig a’r hyn y mae wedi’i olygu i chi a’ch profiad o fynediad at iechyd a gofal. Rydym am ystyried unrhyw wybodaeth newydd y mae angen i ni ei hystyried wrth gynllunio gwasanaethau i’r dyfodol.

Felly, yr wythnos nesaf byddwn yn myfyrio a chofio. Ond nid digwyddiad undydd fydd hwn i ni yn BIP Hywel Dda. Byddwn yn defnyddio’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu a phrofiadau pobl i lywio’r hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n gobeithio gwneud pethau yn well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle