Grant gwerth £100,000 wedi’i ddyfarnu i wella bioamrywiaeth mewn gorsafoedd trenau ac mewn cymunedau

0
402

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael £100,000 gan gynllun Mannau Lleol ar gyfer Byd Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wella bioamrywiaeth leol yn ei orsafoedd trenau ac wrth eu hymyl.

Bydd TrC yn cyflwyno nodweddion gwyrdd mewn hyd at 22 o’i orsafoedd mewn ardaloedd lle mae gwelliannau mawr yn cael eu gwneud ar ei rwydwaith, gan gynnwys waliau gwyrdd, toeau gwyrdd, planhigion, basgedi crog, coed a chasgenni dŵr. Bydd cychod gwenyn, tai adar, blychau ystlumod, gwestai chwilod, tai i ddraenogod a thai buchod coch cwta hefyd yn cael eu cyflwyno i roi hwb i fioamrywiaeth leol.

Bydd TrC yn cefnogi prosiectau bioamrywiaeth lleol ar y cyd â phum partner cymunedol o fewn milltir i’w orsafoedd trenau. Bydd y cwmni’n gwella bioamrywiaeth ac yn rhoi hwb i amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid mewn sawl gorsaf yn awdurdodau lleol Caerffili, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam.

Dywedodd Gareth Morgan, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau’r effaith ar fioamrywiaeth leol y bydd gwaith ar draws ein rhwydwaith yn ei chael dros y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi sicrhau’r cyllid hwn gan gynllun Mannau Lleol ar gyfer Byd Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a fydd yn ein galluogi i gydweithio â phartneriaid cymunedol i wella bioamrywiaeth leol ger ein gorsafoedd trenau.

“Byddwn yn defnyddio gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau canolfannau cymunedol lleol, ysgolion, prosiectau cymunedol a grwpiau sy’n cynrychioli nodweddion gwarchodedig, a fydd yn allweddol i’n llwyddiant ar y cyd. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn, bydd yn cael effaith sylweddol ar fflora a ffawna lleol.

“Mae’r llwyddiant hwn yn tynnu sylw at fanteision gweithio ar y cyd, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl dimau sy’n rhan o’r gwaith, gan gynnwys ein cydweithwyr yn Network Rail. Mae eu mewnbwn wedi cyfrannu at ein cais llwyddiannus am grant a fydd o fudd i gymunedau lleol.”

Dywedodd Gavin McAuley, Cydlynydd Gweithgareddau Awyr Agored y Cambrian Village Trust, Tonypandy: “Mae’r Cambrian Village Trust yn elusen amrywiol a chynhwysol sy’n cynnig gweithgareddau awyr agored i helpu i hyrwyddo lles corfforol a meddyliol.

“Rydyn ni’n ffodus iawn o gael y cyfle hwn i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i helpu i warchod a diogelu ein bioamrywiaeth yn y CVT, ym Mharc Gwledig Cwm Clydach a ledled Canolbarth y Rhondda. Mae wedi bod yn rhan o’n cynllun hirdymor i greu ardal i dyfu planhigion, ffrwythau a llysiau a gweithio gyda’r gymuned i helpu i gynnal a chadw’r ardd hon. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i helpu i gynnal y parc ac i warchod y fflora a’r ffawna yn yr ardal. Drwy hyn, rydyn ni’n gobeithio datblygu grwpiau rheolaidd a fydd yn gallu darparu cynnyrch ffres i’r gymuned.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle