UN MAN CANOLOG AR GYFER HOLL BAPURAU BRO CYMRAEG
Yn mis Mawrth 2021 lansiwyd gwefan newydd ar gyfer yr holl Bapurau Bro Cymraeg www.papuraubro.cymru. Bwriad y wefan yw creu un man canolog lle gall ddarllenwyr hen a newydd ddarganfod gwybodaeth am yr holl Bapurau Bro Cymraeg.
Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth gyswllt a mwy ar gyfer pob un o’r 58 o Bapurau Bro Cymraeg ar draws Cymru a Lloegr sy’n dod â newyddion a gwybodaeth leol i’w cymunedau. Gallwch ddefnyddio map interactif y wefan i ddarganfod pa bapur bro sydd ym mha ardal.
Dywed Dylan Lewis, cadeirydd Papur Bro Clonc (ardal Llanbedr Pont Steffan): “Ry’n ni wedi bod angen un o rhain ers blynyddoedd. Mae’r Papurau Bro yn gwneud gwaith anhygoel ym mhob ardal drwy Gymru, ond mae hefyd yn braf iawn cael y teimlad ein bod yn rhan o rywbeth mwy.”
Mae’r Papurau Bro yn cael eu rhedeg gan dimau o wirfoddolwyr. Fel rhan o’r wefan, bydd llwyfan i wirfoddolwyr y Papurau Bro rannu adnoddau a chyfathrebu.
Dywed Heledd ap Gwynfor o Fentrau Iaith Cymru [MIC]: “Ry‘n ni‘n falch iawn o fod wedi gallu cefnogi’r Papurau Bro drwy weithio ar y prosiect hwn. Gobeithiwn bydd y wefan hwn yn helpu i greu seilwaith i‘r Papurau Bro allu symud ymlaen gyda’i gilydd a datblygu mewn cyfnod lle mae presenoldeb ddigidol mor bwysig.”
Ariennir y Papurau Bro yn rhannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o grant Hybu a Hyrwyddo‘r Gymraeg. Mentrau Iaith Cymru sydd yn gweinyddu grantiau‘r Papurau Bro, gan drefnu cyfarfodydd a chyfleoedd ymgysylltu i rwydwaith y Papurau Bro yn genedlaethol.
Dywed Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: “Mae Papurau Bro yn chwarae rhan bwysig mewn cymunedau ledled Cymru, ac mae technoleg hefyd yn elfen hollbwysig wrth inni anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae angen bachu ar gyfleoedd a thaclo heriau technolegol, felly rwy wrth fy modd i weld y wefan newydd yn datblygu, fydd yn hwb i’r Gymraeg yn lleol ac yn genedlaethol.”
Mae perthynas adeiladol wedi ei greu rhwng Mentrau Iaith Cymru â Bro360, cynllun sy’n darparu gwefannau bro i gymunedau. Trefnwyd hyfforddiant ar y cyd gan MIC a Bro360 ar gyfer gwirfoddolwyr y Papurau Bro yn ystod mis Mawrth 2021. Dywed Lowri Jones ar ran Bro360: “Ry’n ni’n falch bod Bro360 wedi gallu helpu papurau bro i barhau i gyhoeddi yn ystod cyfnod heriol Covid. Edrychwn ymlaen at helpu’r papurau i ddatblygu ymhellach trwy gynnig arbenigedd cwmni Golwg ym maes newyddiaduraeth annibynnol i gynnal tair sesiwn hyfforddiant i gyfranogwyr y papurau bro dros yr wythnosau nesa.”
*
Gwybodaeth pellach: cysylltwch â heledd@mentrauiaith.cymru / 01492 643401 os am sgwrs / lluniau
Nodiadau golygyddol: Sefydlwyd y Papur Bro cyntaf yn 1974 ac ers hynny mae bellach 58 o Bapurau Bro ar draws Cymru gan gynnwys 2 yn Lloegr. Sefydlwyd y Papur Bro mwyaf diweddar yn 2018.
Gwirfoddolwyr sydd yn cynhyrchu’r Papurau Bro, gyda‘r rhan fwyaf o‘r Papurau yn cael derbyn grant ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle