Awdurdod y Parc yn paratoi am Basg prysur

0
358

Bydd croeso cynnes i ymwelwyr â’r gorllewin meddai Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ond mae’n annog pawb i gynllunio ymlaen llaw wrth iddo baratoi am ddechrau prysur i’r tymor wrth i’r cyfyngiadau Aros yn Lleol ddod i ben.

 

Roedd mwy nag erioed o’r blaen wedi ymweld ag arfordir eiconig Sir Benfro yn 2020 ac mae disgwyl i’r tymor nesaf fod yn brysurach fyth.

 

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae hi’n hollol naturiol y bydd pobl eisiau mynd i’r arfordir wrth i’r cyfyngiadau lacio yn dilyn gaeaf hir, tywyll ac anodd i bawb.

 

“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig fu’r Parc Cenedlaethol dros y flwyddyn ddiwethaf o ran cefnogi iechyd a llesiant pobl a’r rôl hollbwysig y bydd yn ei chwarae dros y misoedd nesaf. Ond rydyn ni’n gofyn i bawb gynllunio ymlaen llaw, os mai dyma’r tro cyntaf i chi ymweld neu os ydych chi’n dod yma’n rheolaidd. Gallwch ddisgwyl y bydd y mannau sy’n boblogaidd ymysg twristiaid yn brysur, felly beth am archwilio rhai o drysorau cudd y Parc yn lle.”

 

Mae’r Awdurdod yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ymwelwyr yn mwynhau’r gorau o Sir Benfro yn ddiogel a bod cymunedau lleol yn cael eu cefnogi drwy gydol y misoedd nesaf.

 

“Drwy weithio gydag asiantaethau partner, rydyn ni’n barod i reoli heriau posibl fel y problemau a gawsom yr haf diwethaf gyda gwersylla anghyfreithlon, problemau parcio lleol a gweithgareddau gwrthgymdeithasol,” meddai Tegryn Jones.

 

“Dydyn ni ddim eisiau pregethu, ond rydyn ni eisiau diogelu’r darn hwn o baradwys Sir Benfro i bawb ei fwynhau, felly rydyn ni’n gofyn i’n holl ymwelwyr droedio’n ysgafn a pheidio â gadael eu hôl.”

 

Ar gyfer y rheini sy’n bwriadu ymweld â Sir Benfro, mae’n bosibl cynllunio ymlaen llaw gyda fersiwn digidol papur newydd ymwelwyr Awdurdod y Parc, Coast to Coast, sy’n llawn erthyglau a gwybodaeth i helpu pawb i wneud y gorau o’u hymweliad a chefnogi cymunedau a busnesau lleol ar yr un pryd. I weld copi, ewch iwww.arfordirpenfro.cymru/coast-to-coast.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle