Cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i brosiect Pentre Awel yn Llanelli sydd yn werth £40m

0
495

Roedd cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i’r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd yn Llanelli, Pentre Awel fydd yn cynnwys cyfleusterau ymchwil busnes, addysg, iechyd a hamdden.

Trafodwyd y cynllun yn ystod Cwestiynau Iechyd am gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Rhagwelir y bydd yr elfennau ym mhrosiect Pentre Awel a gyllidir gan y Fargen Ddinesig yn creu 1,289 o swyddi, ac unwaith i’r holl safle gael ei datblygu, bydd hyn yn codi i 1,800 o swyddi fydd yn rhoi hwb o £467m i’r economi lleol.

Dywedodd AoS Plaid Cymru Helen Mary Jones:

“Rwy’n credu y gall lleoli cyfleusterau gofal iechyd o’r radd flaenaf yn ein cymunedau tlotaf gyfrannu at ymdrin ag anghydraddoldeb mewn iechyd. Rwyf eisiau llongyfarch Cyngor Sir Gar dan arweiniad Plaid Cymru a’r holl bartneriaid yn natblygiad Pentre Awel yn Llanelli, fydd wedi ei leol yng nghanol rhai o’r wardiau tlotaf yng nghymru. Bydd y prosiect yn cynnwys canolfan gofal clinigol fydd yn cyflwyno gofal amlddisgyblaethol, canolfan ymchwil glinigol, a chanolfan sgiliau lles, i ganolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, a chanoli’r hyfforddiant hwnnw yn arbennig ar recriwtio o blith y cymunedau hynny. Hoffwn longyfarch pawb fu’n rhan o hyn. Dyma’r math o brosiectau all wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau lle mae mwyaf eu hangen.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: “…mae’n enghraifft dda o sut y gall ac y dylid dwyn gwasanaethau iechyd a gofal lleol ynghyd i roi cyfleusterau o ansawdd uwch, i fuddsoddi yn y gymuned honno a chyflwyno gwell gwasanaethau …mae’n mynd yn ôl at y berthynas well rhwng iechyd a llywodraeth leol trwy gydol yr argyfwng, ond cyn hynny hefyd, ac y mae gwir gyfle i ddal ati i fuddsoddi mewn gofal iechyd lleol a chyflwyno cyfleusterau gwell o lawer lle mae mwyaf eu hangen.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle