Digwyddiadau rhithiol i ddathlu awyr dywyll Sir Benfro

0
379

Bydd Wythnos Ryngwladol Awyr Dywyll eleni yn cael ei dathlu mewn cyfres o ddigwyddiadau ar-lein rhad ac am ddim wedi’u trefnu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn ystod wythnos lleuad newydd mis Ebrill (5 Ebrill tan 12 Ebrill), mae’r Wythnos Ryngwladol Awyr Dywyll yn ddigwyddiad blynyddol lle mae pobl ledled y byd yn cael eu hannog i ddiffodd eu goleuadau ac i werthfawrogi harddwch awyr y nos.

Ddydd Mawrth 6 Ebrill am 5pm, bydd Awyr Serennog Sir Benfro yn rhoi cyfle i ddysgu am rinweddau a manteision awyr dywyll a serennog Sir Benfro. Bydd y pynciau trafod yn cynnwys sut gall cymunedau lleol gymryd rhan yn y gwaith o ddathlu a mwynhau awyr y nos, a sut gall bywyd gwyllt y nos ffynnu o ganlyniad i wella ansawdd y golau yn ystod y nos.

Os ydych chi erioed wedi ystyried pwysigrwydd awyr y nos i’n hynafiaid, fel rhan o Straeon Hynafol Dan y Sêr, sy’n cael ei gynnal nos Fercher 7 Ebrill am 7pm mewn partneriaeth ag Ein Cymdogaeth Werin, bydd yr Archeolegydd Cymunedol Tomos Ll. Jones yn ymuno â’r storïwr Alice Courvoisier i archwilio tirwedd cynhanesyddol Mynyddoedd y Preseli drwy gyfrwng straeon a chwedlau hynafol sydd wedi’u hysbrydoli gan awyr y nos.

Bydd y digwyddiad Awyr Dywyll olaf yn cael ei gynnal ddydd Iau 8 Ebrill am 6pm a bydd yn gyfle i edrych ar y sêr yn rhithiol gyda thîm o arbenigwyr Awyr Dywyll Cymru. O gynhesrwydd a chludwch rhith-blanetariwm, bydd Archwilio’r Awyr Nos yn mynd â chi ar daith o amgylch awyr y nos, drwy archwilio gwahanol blanedau, cytserau a galaethau. Bydd awgrymiadau a thechnegau syml yn cael eu rhoi ar sut i syllu ar y sêr, gan ysbrydoli pawb i wneud y gorau o awyr dywyll Sir Benfro.

Dywedodd yr Archeolegydd Cymunedol Tomos Ll. Jones: “Rydyn ni wedi’n bendithio ag awyr anhygoel yma yn Sir Benfro gyda’r nos. Gyda’i lygredd golau isel a chadwyn o wyth Safle Darganfod Awyr Dywyll sydd wedi’u cydnabod yn genedlaethol, mae’r Parc Cenedlaethol yn un o’r mannau gorau yn y DU ar gyfer syllu ar y sêr, lle mae’r Llwybr Llaethog yn weladwy i’r llygad.

“Bydd y digwyddiadau hyn yn gyfle i gael blas ar rai o’r anturiaethau anhygoel y gellir eu mwynhau o dan awyr dywyll y Parc Cenedlaethol.”

Er mai digwyddiadau rhad ac am ddim yw’r rhain, mae archebu ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer bob un o’r tri digwyddiad. I gael gwybod mwy, ewch iwww.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau. Gellir dod o hyd i fap o safleoedd Darganfod Awyr Dywyll Sir Benfro yn www.arfordirpenfro.cymru/awyr-dywyll.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle