Leanne yn gosod allan weledigaeth i wella’r Rhondda wedi coronafeirws mewn dogfen bolisi o bwys

0
434
Plaid Cymru AMs. (Photo by Matthew Horwood)

Mae Aelod Senedd y Rhondda wedi cyhoeddi cynllun uchelgeisiol i adfer wedi Covid.

Mae Cam Nesaf y Rhondda gan Leanne Wood  yn cynnwys polisïau sy’n ymdrin â’r economi, addysg, iechyd a newid hinsawdd sydd oll yn cael eu dwyn at ei gilydd gydag un nod o wella’r Rhondda.

Dywedodd Leanne y buasai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithredu’r polisïau cyn gynted ag sydd modd i gychwyn yr adferiad wedi’r pandemig Covid.

Mae’r ddogfen bolisi yn cynnig cynyddu gweithlu’r GIG gyda 1,000  o feddygon a 5,000 o nyrsys yn ychwanegol, sefydlu canolfan ddiagnosis ganser yn y Rhondda i gwtogi amseroedd aros ac arbed bywydau, a sefydlu canolfannau Lles Meddyliol Ieuenctid i bobl ifanc nad ydynt, efallai, angen triniaeth seiciatryddol ddwys ond sydd yn dal angen help.

Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn creu 1,500 o swyddi newydd yn y Rhondda trwy Fargen Werdd Newydd, yn sefydlu Corfforaeth Ddatblygu’r Cymoedd – gyda’i phencadlys yn y Rhondda – i annog twf busnesau yn ogystal â sefydlu’r Rhondda fel canolfan i feicio trydan gyda chyfleuster gweithgynhyrchu newydd a hyrwyddo beicio, gan gysylltu â chynlluniau ar gyfer Twnnel y Rhondda.

Dywedodd Leanne: “Roedd llawer o heriau ac anghydraddoldeb yn y Rhondda cyn y pandemig coronafeirws ond mae’r deuddeng mis diwethaf wedi gwaethygu hynny.  

“Mae ein cymoedd wedi eu hesgeuluso yn rhy hir. Nawr mae arnom angen cynllun cadarn gyda nod a thargedau clir os ydym am newid y sefyllfa rydym ynddi. Mae ar y Rhondda angen buddsoddiad, cyfleoedd, ac yn anad dim, yr ewyllys gwleidyddol i weithredu cynllun radical i adfer wedi Covid. 

“Mae ’Cam Nesaf y Rhondda’ yn gynllun cynhwysfawr ac uchelgeisiol i wella ein cymunedau trwy welliannau i iechyd, yr economi a gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd a mwy. Does dim anorfod ynghylch tlodi. Dewis ydyw, a gallwn ddewis ei atal.   

“Gallwn droi pethau o gwmpas ond mae arnom angen yr ewyllys gwleidyddol i wneud hynny. Cafodd y Torïaid a Llafur hen ddigon o gyfle i wneud hyn, ond mae llywodraethau coch a glas wedi methu gwneud hynny. 

“Daeth yn amser newid a daeth yr amser i lywodraeth Plaid Cymru fel y gallwn gychwyn ar y dasg o ail-godi ein cymunedau o’r bôn i’r brig a rhoi adferiad ar waith na fydd yn gadael neb ar ôl.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle