Defnyddiwch Coast to Coast i gynllunio eich gwyliau gartref yn Sir Benfro

0
316

Gall ymwelwyr a thrigolion Sir Benfro ddarganfod sut i fanteisio i’r eithaf ar y Parc Cenedlaethol y tymor hwn drwy gael eu hysbrydoli gan bapur newydd llawn gwybodaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Coast to Coast.

Mae’r papur poblogaidd, sy’n cael ei ddosbarthu ledled y sir, yn llawn gwybodaeth am ble i fynd i gael gweld arfordir, traethau, a safleoedd hanesyddol Sir Benfro, yn ogystal â gwybodaeth am ddarganfod eich hun a hybu’ch lles personol.

Mae’r Parc Cenedlaethol wedi bod yn cynhyrchu Coast to Coast am 39 o flynyddoedd. Mae’r papur yn cynnwys orielau, celf a chrefft, chwaraeon dŵr, gerddi a theithiau cwch, ac mae’n helpu trigolion lleol ac ymwelwyr i fanteisio i’r eithaf ar Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro o’r gwanwyn hyd ddechrau’r hydref.

Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr yr Awdurdod:  “Mae Coast to Coast yn gyflwyniad gwych i’r Parc Cenedlaethol a’r ardal gyfagos, ac yn cynnwys erthyglau ar gadw’n ddiogel ar y traeth a’r ffyrdd gorau o gymryd gofal wrth fwynhau’r cyfoeth naturiol ardderchog yma, gan gynnwys ein safleoedd yng Nghastell Caeriw, Castell Henllys a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc.

“Lle bo’n bosib, bydd Coast to Coast yn cael ei ddosbarthu i siopau a busnesau sy’n gallu gweithredu yn ystod y cyfyngiadau cyfredol. Fodd bynnag mae ar gael ar ffurf fersiwn digidol llawn hefyd, sy’n cynnwys map a thabl llanw chwe mis, yn www.pembrokeshirecoast.wales/coasttocoast, gan ganiatáu i bobl gynllunio eu hymweliad ar-lein cyn teithio i Sir Benfro.

“Rydyn ni’n gofyn i’n holl ymwelwyr gynllunio ymlaen llaw os oes modd y tymor hwn, gan ein bod yn disgwyl haf prysur iawn yn Sir Benfro. Mae argraffiad eleni hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddiogelwch ddefnyddiol ac erthygl wych ar fod yn ymwelydd cyfrifol, ac ar droedio’n ofalus yn y Parc Cenedlaethol.

“Mae hefyd yn cynnwys rhaglen gweithgareddau a digwyddiadau’r Awdurdod, sy’n cynnig cyfle unigryw i ddarganfod treftadaeth, bywyd gwyllt, cefn gwlad ac arfordir y Parc Cenedlaethol.”

Dyma sut mae cael gafael ar gopi o Coast to Coast:

 

·       Codwch gopi mewn siopau a busnesau ledled Sir Benfro.

·       Llwythwch ap Coast to Coast (mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael) i lawr ar ddyfeisiau Apple neu Android drwy wefan yr Awdurdod,.

www.pembrokeshirecoast.wales/coasttocoast

·       Porwch drwy’r fersiwn Gymraeg neu Saesneg yn
www.pembrokeshirecoast.wales/coasttocoast

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael copi papur neu gopi electronig o Coast to Coast heddiw i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar arfordir a chefn gwlad Sir Benfro yn 2021, sydd gyda’r gorau yn y byd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle