Cadw golwg ar eich llesiant trwy wasgu botwm

0
742

Beth am gadw golwg ar eich llesiant gyda’n ap Cysylltu â Llesiant newydd sy’n cefnogi llesiant unigolion ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Wedi’i ariannu gan Gronfeydd Trawsnewid Llywodraeth Cymru, mae’r ap Cysylltu â Llesiant y gallwch ei lawrlwytho ac sy’n hawdd i’w ddefnyddio yn offeryn cynllunio llesiant personol y gallwch ei ddefnyddio i‘ch helpu i fesur eich llesiant eich hun.

Yr ap yw un o’r dulliau a ddefnyddir gan ystod o raglenni a ddarperir drwy’r gronfa Drawsnewid ar draws rhanbarth gorllewin Cymru i helpu unigolion a darparwyr i ddeall sut mae eu gwasanaethau’n effeithio ar lesiant unigolyn.

Mae’n caniatáu i chi hunanasesu eich llesiant mewn chwe maes allweddol ac yn rhoi adborth ar sut y gallech wella yn y meysydd hyn. Mae hyn yn cynnwys Teimlo’n iawn, Defnyddio’r hyn sydd gennyf, Cael y cymorth cywir, Bod yn rhan o rywbeth, Gwneud pethau sy’n bwysig i mi a Gofalu amdanaf fy hun.

Pan fyddwch wedi cwblhau eich asesiad byddwch yn cael awgrymiadau defnyddiol ar sut i wella eich llesiant a gallwch osod nodau a chynlluniau gweithredu unigol i chi eich hun er mwyn gwella eich llesiant a chyrchu dolenni i amrywiol adnoddau a all eich helpu i gyflawni nodau llesiant.

Gallwch ailadrodd eich asesiad yn rheolaidd i gadw golwg ar eich llesiant dros amser. Gan fod ein llesiant yn newid mewn ymateb i wahanol ddigwyddiadau ac amgylchiadau, bydd ailasesu eich llesiant yn rheolaidd yn eich helpu i ganolbwyntio ar agweddau allweddol ar eich llesiant a allai ddioddef mewn ffyrdd gwahanol ar wahanol adegau.

Wrth siarad am yr ap, dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol, “Mae’r ap Cysylltu â Llesiant yn offeryn personol i’ch helpu i ddeall, olrhain a gwella eich llesiant cyffredinol. Mae’n cysylltu pobl â’r adnoddau, y ffynonellau gwybodaeth a’r grwpiau cymunedol priodol a all eu helpu i wella eu llesiant a’u helpu i ganolbwyntio ar feysydd penodol y maent yn credu bod angen cymorth ychwanegol arnynt i’w helpu i gyflawni eu nodau.

Mae’n helpu unigolion i feithrin arferion gwell a fydd yn arwain at newid gwirioneddol a pharhaus. Mae’r ap hwn yn offeryn hynod werthfawr a fydd o fudd mawr i unigolion ledled de-orllewin Cymru a byddwn yn annog pobl i archwilio ei botensial o ran gwella eu llesiant cyffredinol ac i olrhain eu taith a’u cynnydd.”

Bydd partneriaid rhanbarthol yn parhau i gydweithio i ddiweddaru’r ap yn rheolaidd trwy gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cymorth sydd ar gael ym mhob ardal.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle