Menter Cymdeithas Bêl-droed Cymru – y cyntaf o’i thebyg yn y byd – yn gadael marc newydd ar y cae pêl-droed

0
486

Cymru yn dod y genedl gyntaf yn y byd i roi marciau coch ar ei chaeau pêl-droed

 

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) wedi cyhoeddi ei bod yn lansio menter newydd – y cyntaf o’i thebyg yn y byd –  ar y caeau pêl-droed.

Er mwyn hyrwyddo ei phartneriaeth gymunedol â Gwasanaeth Gwaed Cymru, bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweithio gyda Chynghreiriau JD Cymru ac Uwch Gynghrair Orchard Merched Cymru i droi pob marc ar y caeau yn goch ar gyfer dechrau’r tymor newydd.

Bydd y penderfyniad yn golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i ddefnyddio marciau caeau coch ar draws ei chynghreiriau domestig, a disodli’r marciau gwyn traddodiadol sydd wedi bod yn olygfa gyffredin ar gaeau pêl-droed ers diwedd y 1800au.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi creu math newydd o baent coch o’r enw ‘gwaed red’ ar gyfer yr ymgyrch, a bydd yn gweithio’n agos gyda phob clwb pêl-droed i gyflwyno’r newid newydd. Dyma’r tro cyntaf i Wasanaeth Gwaed Cymru, neu unrhyw noddwr o’i fath, wneud newidiadau i farciau caeau pêl-droed.

Dywedodd Oli Farslop, Cadeirydd Bwrdd y Cynghreiriau Cenedlaethol: “Roedd y penderfyniad creadigol i beintio llinellau’r caeau’n goch yn un syml i ni; rydyn ni’n meddwl bod marciau coch llachar yn ffordd wych o sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’n partneriaeth â Gwasanaeth Gwaed Cymru. Pan fydd hyn yn cael ei gyflwyno ar ddechrau’r tymor newydd, rydym yn gwybod y bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn gwneud i’r gemau yn ein cynghrair sefyll allan go iawn. 

“Mae’n bwysig bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn edrych ar ffyrdd newydd o arloesi’r gêm. Nid yn unig y bydd y marciau coch ar y caeau y tro cyntaf yn y byd i hyn ddigwydd, ond bydd hefyd yn cael cefnogwyr lleol i siarad am y pwysigrwydd o roi gwaed, a allai achub cannoedd o fywydau.”   

Mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu 350 o roddion gwaed bob un dydd i gyflenwi digon o waed i gleifion mewn 21 o ysbytai, i gefnogi triniaethau achub bywyd. Gyda 100,000 o roddion gwaed yn cael eu rhoi bob blwyddyn gan 70,000 o roddwyr gwirfoddol, mae’r sefydliad yn gobeithio y bydd ei bartneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cefnogi ei nod o gofrestru 11,000 o roddwyr gwaed newydd yn 2021.

Mae rhoi gwaed yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol, ac mae sesiynau rhoi gwaed wedi parhau i gael eu rhedeg ar draws Cymru drwy gydol y pandemig, gyda mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i fodloni canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer rhoddwyr sy’n mynychu.

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Pan gynhalion ni drafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynglŷn â dod yn bartner Cynghreiriau Cymru ac Uwch Gynghrair Orchard Merched Cymru, roedden ni eisiau gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol i gael cefnogwyr pêl-droed i siarad am roi gwaed. Does dim ffordd well o wneud hynny na thrwy sefydlu’r fenter gyntaf o’i thebyg yn y byd.  Rydym wedi parhau i dderbyn cefnogaeth wych gan roddwyr ar draws Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o gefnogwyr i ddangos eu cefnogaeth drwy ymuno â’n tîm achub bywyd.”

I ddysgu mwy am y sesiynau hynny neu i roi gwaed, ewch i wbs.wales/football.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle