Mae’r Cynllun Corfforaethol yn cyflwyno pedwar Nod Strategol yr Awdurdod ar gyfer y pum mlynedd nesaf – ynghyd â’i Amcanion Gwella a Llesiant ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod (2021-22).
Mae Nodau Strategol ac Amcanion Gwella a Llesiant yr Awdurdod wedi cael eu pennu yng nghyd-destun yr heriau sylweddol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, ond maent hefyd yn adlewyrchu’r awydd i groesawu syniadau arloesol a ffyrdd newydd o weithio. Yn ogystal â hyn, maent yn coleddu’r saith Nod Llesiant, ac yn adlewyrchu dyletswyddau ac ymrwymiad yr Awdurdod o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Dywedodd y Cynghorydd Jan Curtice, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:
“Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl ac i wneud y defnydd gorau o’n hasedau a’n hadnoddau, gan ofalu bod ein staff yn y sefyllfa orau i ddelio ag argyfyngau ac i sicrhau gwell diogelwch ar eu cyfer eu hunain a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
“Wrth i ni barhau i ymateb i’r heriau ariannol sydd o’n blaenau, byddwn hefyd yn ceisio datblygu datrysiadau arloesol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflenwi gwasanaethau costeffeithiol o ansawdd uchel”.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Chris Davies:
“Mae’n bleser gennym gyflwyno ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-2026, sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, sef bod yn Arweinydd Byd o ran Ymateb i Argyfyngau a Diogelwch Cymunedol. Rydym yn hyderus y bydd ein Nodau Strategol a’n Hamcanion Gwella a Llesiant yn ein galluogi i gyflawni ein dyletswyddau statudol a chyfrannu at ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
“Rydym yn credu ein bod yn cynnig gwerth da iawn am arian; fodd bynnag, does dim dwywaith y bydd yr hinsawdd ariannol sydd ohoni yn parhau i roi pwysau ychwanegol ar lefelau’r gwasanaeth a ddarparwn wrth i ni ymestyn ein hadnoddau ymhellach fyth. Byddwn felly’n parhau i chwarae ein rhan trwy geisio cyfleoedd i nodi atebion costeffeithiol, a hynny trwy drafodaethau parhaus ac agored â staff a’r cyhoedd ynghylch y modd y gallwn barhau i wneud gwelliannau a sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn y dyfodol.”
Mae pandemig parhaus COVID-19 wedi cyflwyno heriau sylweddol i Wasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru, ac yn wir y Deyrnas Unedig. Mae’r Gwasanaeth yn dal i ddysgu o effaith y pandemig er mwyn sicrhau nad effeithir ar ein hymateb gweithredol, lle bo hynny’n bosibl. Rydym am barhau i ddatblygu’r meysydd hyn er mwyn iddynt gael effaith gadarnhaol ymhell i’r dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo i addasu i’r heriau hyn mewn ffordd gadarnhaol, ac mae ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2021-2026 yn amlinellu ein Nodau Strategol a’n Hamcanion Gwella a Llesiant ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae cydweithredu yn allweddol i ddyfodol ein gwasanaethau brys er mwyn cyflawni canlyniadau a rennir yn llwyddiannus, gan ein galluogi i wella’r ffordd yr ydym yn gweithio, rhannu adnoddau ac, yn y pen draw, achub rhagor o fywydau. Mae’r Gwasanaeth yn dal i fod wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion arloesol i wella’r modd yr ydym yn gweithio, gwella diogelwch ar gyfer y diffoddwyr tân, lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, ac, yn y pen draw, cyfrannu at lesiant ein cymunedau.
Cliciwch yma i weld Cynllun Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 2021-2026.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle