Peidiwch â bod fel Wally, cynlluniwch ymlaen llaw

0
338

Er nad yw Wally y walrws wedi pacio rhyw lawer ar gyfer ei wyliau yn sir Benfro, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynghori pobl i gynllunio ymlaen llaw cyn anelu am y gorllewin dros benwythnos y Pasg.

Mae’r Awdurdod yn disgwyl un o’r gwyliau Pasg prysuraf erioed wrth i’r haul wenu arnom ac wrth i deithwyr o bob cwr o Gymru fanteisio i’r eithaf ar y rhyddid i grwydro.

 

“Bydd croeso cynnes i’n holl ymwelwyr,” meddai Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, “ond rydyn ni’n gofyn i bawb gynllunio ymlaen llaw – os ydyn nhw’n aros dros nos neu’n ymweld am y dydd.

“Rydyn ni eisoes yn cael problemau gyda phobl yn parcio’n anghyfreithlon dros nos mewn faniau gwersylla hunangynhwysol ac nid yw’r ffaith bod Wally y walrws wedi gwneud ei hun yn gartrefol heb ganiatâd yn golygu ein bod ni gyd yn cael gwneud hynny!

 

“Mae gennym lu o safleoedd gwersylla gwych ar draws y sir a byddem yn annog pawb i’w defnyddio.

 

“Mae hi wedi bod yn gyfnod tywyll ac anodd i lawer o fusnesau twristiaeth sir Benfro a drwy gefnogi darparwyr llety lleol, gan gynnwys safleoedd gwersylla, rydych chi’n helpu ein busnesau lleol ac yn chwarae eich rhan i ddiogelu ein Parc Cenedlaethol eiconig.

 

“Mae arnom eisiau i bawb fwynhau’r gorau sydd gan y Parc i’w gynnig – o draethau godidog i 186 milltir o Lwybr Arfordir sydd wedi ennill gwobrau – ond mae hi’n bwysig gwneud ein gorau glas i aros yn ddiogel, troedio’n ysgafn a pheidio â gadael ein hôl, drwy fynd â sbwriel adref, cefnogi busnesau lleol a pharchu’r amgylchedd a’n cymunedau.”

 

Gan ein bod yn disgwyl iddi fod yn gyfnod prysur ar draws sir Benfro, mae’r Awdurdod yn cynghori pobl i fod yn barod am dyrfaoedd mewn mannau hardd poblogaidd a mannau sy’n boblogaidd ymysg ymwelwyr, a rhoi cynnig ar grwydro i lecynnau nad ydyn nhw efallai wedi ymweld â nhw o’r blaen yn lle hynny.

 

Mae papur newydd yr Awdurdod i ymwelwyr, Coast to Coast ar gael yn ddigidol er mwyn i bobl allu cynllunio ymlaen llaw a manteisio i’r eithaf ar y Parc Cenedlaethol, ac mae hefyd nawr yn cael ei ddosbarthu ar draws y sir. I weld copi, neu i lwytho’r ap i lawr, ewch i www.pembrokeshirecoast.wales/coast-to-coast.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle