Plaid yn addo cyflwyno Deddf Awtistiaeth mewn llywodraeth – Leanne Wood

0
345
Plaid Cymru AMs. (Photo by Matthew Horwood)

Heddiw, mae Leanne Wood, AS Plaid Cymru dros y Rhondda, wedi amlinellu addewid ei phlaid i gyflwyno Deddf Awtistiaeth os ydynt yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru ym mis Mai.

 

Roedd Leanne Wood yn cofio’r “dicter a’r siom” pan bleidleisiodd Llafur yn erbyn Bil Awtistiaeth yn y Senedd yn ôl yn 2019, gan addo bod llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud iawn am y “cyfle a gollwyd”.

 

Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, ychwanegodd ymgeisydd Plaid Cymru dros y Rhondda y byddai Deddf Awtistiaeth ei phlaid yn “mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau i bobl ag awtistiaeth” i gefnogi teuluoedd a’r miloedd o unigolion sydd naill ai’n cael trafferth cael diagnosis neu gefnogaeth wedyn.

 

Mae Dr John Gillibrand yn awdur ac yn ymgyrchydd tymor hir, yn codi ymwybyddiaeth am awtistiaeth, ac wedi croesawu’r newyddion y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno Deddf Awtistiaeth. Cafodd mab Dr Gillibrand ddiagnosis o awtistiaeth yn ystod plentyndod, ac mae’n dweud na all pobl “gymryd yn ganiataol y bydd cefnogaeth yn gyfartal ar draws Cymru” heb ymgorffori cyfrifoldeb statudol.

 

Dywedodd Leanne Wood AS:

 

“Roedd dicter a siom pan bleidleisiodd y mwyafrif llethol o Aelodau Llafur yn erbyn Bil Awtistiaeth yn y Senedd yn 2019.

 

“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud iawn am y cyfle hwn a gollwyd drwy gyflwyno Deddf Awtistiaeth a fyddai’n mabwysiadu ymagwedd seiliedig ar hawliau ar gyfer pobl ag awtistiaeth a’r rhai yr amheuir bod ganddynt awtistiaeth ond nad ydynt eto wedi cael diagnosis.

 

“Pan bleidleisiodd Llafur dros y Bil Awtistiaeth, rwy’n cofio’n glir y dystiolaeth ofidus a gawsom gan unigolion ag awtistiaeth a’u teuluoedd. Roeddent yn siarad yn deimladwy am yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu wrth gael cymorth ar ôl cael diagnosis ac mewn llawer o achosion yr ymdrech i gael diagnosis yn y lle cyntaf.

 

“Dangosodd eu straeon fod angen dybryd am ddeddfwriaeth o’r fath. Mae’r straeon hynny’n dal i gael eu hadrodd – y gwahaniaeth yw y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn fodlon gwrando.

 

“Mae tua 34,000 o bobl awtistig yng Nghymru sydd angen ac sy’n haeddu llawer mwy o gysondeb ledled y wlad o ran darparu cymorth a gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

 

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno’r Ddeddf Awtistiaeth i helpu’r miloedd hyn o bobl ac i gyflawni lle mae Llafur wedi methu.”

 

Dywedodd Dr Gillibrand:

 

“Croesawaf y newyddion y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn dod â’r Ddeddf Awtistiaeth yn ôl, gan fy mod yn siomedig iawn pan bleidleisiwyd ar hyn yn y Senedd yn 2019.

 

“Rwy’n deall y gwahaniaeth y gall y cymorth cywir ar yr adeg iawn ei wneud i bobl sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth a’u teuluoedd. Mae’n hanfodol bod hyn yn rhan annatod o ddeddfwriaeth, yn hytrach na gadael materion mor bwysig i ddisgresiwn lleol.

 

“Ni all pobl gymryd yn ganiataol y bydd y cymorth hwnnw’n gyfartal ledled Cymru oni bai bod hyn yn cael ei wneud yn ofyniad statudol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle