Mae hi’n dymor wyna ac mae llawer o’r llwybrau cyhoeddus yn croesi caeau o ddefaid, felly mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn apelio ar bobl sy’n cerdded eu cŵn i ddilyn yr arferion gorau pan fyddant allan yng nghefn gwlad.
Wrth gerdded Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro yn ogystal â hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau ceffylau eraill, gwnewch yn siŵr:
- Eich bod bob amser yn cadw cŵn ar dennyn byr ac o dan reolaeth agos pan fydd defaid a da byw eraill gerllaw
- Eich bod yn glanhau ar ôl eich ci; rhowch y baw mewn bag a’i roi yn y bin os gallwch chi, neu fynd ag ef gyda chi – peidiwch â gadel bagiau baw yng nghefn gwlad.
Dywedodd Meurig Nicholas, Swyddog Hawliau Tramwy Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Os aiff eich ci o’ch golwg neu os na fyddwch yn ei reoli’n iawn, efallai y bydd yn mynd ar ôl y defaid ac yn tarfu neu’n ymosod arnynt. Gall defaid cyfoen sy’n bryderus a dan straen erthylu neu gam-esgor eu hŵyn.
“Mae ŵyn ifanc hefyd yn agored iawn i niwed yn ystod y cyfnod hwn, a gallan nhw fod yn ofidus iawn a marw hyd yn oed os ydyn nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth eu mamau neu’n cael eu gadael ar ôl i gŵn redeg ar eu holau.”
Hefyd, rydym wedi gweld achosion lle mae cŵn wedi gorfod cael eu hachub o glogwyni oherwydd nad oedden nhw wedi cael eu cadw o dan reolaeth agos.
Ychwanegodd Mr Nicholas: “Mae’r sefyllfaoedd hyn wedi golygu bod gwasanaethau brys fel Gwylwyr y Glannau ac RNLI wedi gorfod nôl ac achub cŵn. Byddai modd osgoi achosion o’r fath, sy’n rhoi pwysau diangen ychwanegol ar ein gwasanaethau brys prysur.”
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys Cod Ymddygiad Cerdded eich Ci Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/cwn.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle