Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin

0
409

Mae Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd John Warman ac Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Edward Latham, wedi talu teyrnged yn dilyn cyhoeddiad gan Balas Buckingham ynghylch marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.

Dywedodd y Cyng. John Warman, Maer Castell-nedd Port Talbot,

Roeddwn i’n hynod drist o glywed am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.

Mae ef wedi gwasanaethu’r wlad hon ag ymrwymiad mawr wrth iddo gyflawni’i ddyletswyddau brenhinol ac wrth wasanaethu fel aelod o’n lluoedd arfog ac ar ran holl bobl Castell-nedd Port Talbot, hoffwn gydymdeimlo’n ddiffuant ag aelodau’r Teulu Brenhinol.”

Ychwanegodd y Cyng. Edward Latham, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ei gydymdeimladau hefyd. Ychwanegodd y Cyng. Latham,

Tristwch mawr i mi oedd clywed am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin ac, fel llawer o bobl eraill, rwy’n teimlo ymdeimlad personol o alar ar hyn o bryd. Fel arwydd o barch, bydd baneri adeiladau dinesig y fwrdeistref sirol ar eu hanner.”

Yn ogystal, bydd llyfr cydymdeimlad yn cael eu cyhoeddi ar-lein yma https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=iZCKbIhCZ0e1e_xVhxFFUvU0mZ2EiflMghrg1QWl2bdUMFVNMTdSUU1SOTgwSjc5MEFSUDE1TVNCUi4u.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle