Mae llefarydd Plaid Cymru ar Addysg Siân Gwenllian AS heddiw wedi nodi addewid ei phlaid i recriwtio 4,500 o athrawon ychwanegol a staff cymorth arbenigol yn ysgolion Cymru, pe bai’n ffurfio’r llywodraeth nesaf ar Ă´l yr etholiad ym mis Mai.
Gan nodi gweledigaeth y blaid i gynnig âi bob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo’u cod post neu gefndir, y dechrau gorau mewn bywydâ, canmolodd Siân Gwenllianathrawon a holl staff yr ysgol am âweithio rhyfeddodauâ drwy gydol y pandemig i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg er gwaethaf yr amgylchiadau heriol.
Dywedodd Siân Gwenllian hefyd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn codi’r cyflog cychwynnol i athrawon yng Nghymru o 10% i ÂŁ30,000 ac yn gweithio tuag at wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr, gan roi mwy o gyfleoedd datblygiad proffesiynol a chefnogaeth i athrawon drwy gydol eu gyrfaoedd.
Dywedodd Siân Gwenllian AS:
âRwyf am i bob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo’u cod post neu gefndir, gael y dechrau gorau mewn bywyd.
âRhan bwysig o hynny yw sicrhau bod gan ein hysgolion gymaint o adnoddau â phosibl, nid yn unig o ran nifer yr athrawon ond hefyd eu arbenigedd wrth gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu ychwanegol.
âDyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflogi 4,500 o athrawon ychwanegol a staff cymorth arbenigol mewn ysgolion ledled Cymru erbyn diwedd ein tymor cyntaf.
âMae athrawon wedi cael cyfnod arbennig o anodd yn ystod y pandemig ac wedi gweithio rhyfeddodau i sicrhau bod ein pobl ifanc yn parhau i dderbyn addysg, waeth beth fo’r amgylchiadau heriol.
âAr hyn o bryd mae un o bob tri athro yn rhoi’r gorau i’r ystafell ddosbarth o fewn eu pum mlynedd gyntaf. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn mynd i’r afael â hyn nid yn unig drwy sicrhau bod cyllid ar gael i recriwtio mwy o athrawon ond i wella’r cynnig i’r rhai sydd eisoes yn y proffesiwn.
âByddwn yn gwneud hyn drwy godi cyflog cychwynnol athrawon yng Nghymru o 10% i ÂŁ30,000 o 2022 a darparu seibiannau sabothol mewn gyrfa i athrawon.
âMae Plaid Cymru hefyd yn ymrwymo i wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr, gan ddechrau gyda gofyniad i bob athro newydd gymhwyso fod yn gweithio tuag at radd Meistr mewn addysg a ariennir gan y llywodraeth neu bwnc sy’n berthnasol i’w gwaith dosbarth o fewn pum mlynedd.Â
âDylai pob gweithiwr addysg, athrawon llawn amser ac athrawon cyflenwi fel ei gilydd, gael mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy gydol eu gyrfaoedd.
âMae’n bryd i lywodraeth Cymru roi’r gydnabyddiaeth a’r wobr lawn y maent yn eu haeddu i athrawon. Dyna beth mae pleidlais i Blaid Cymru yn ei gynnig ar 6ed Mai.â
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle