Pecynnau profi COVID-19 ar gyfer pobl sy’n methu gweithio gartref

0
367

O ddydd Gwener 16 Ebrill 2021 bydd pobl sy’n methu gweithio gartref ac na allant gael mynediad at brofion COVID-19 yn uniongyrchol trwy eu gweithle, yn gallu casglu pecynnau profi yn lleol i brofi eu hunain am y feirws cyn mynd i’r gwaith.

Bydd pob unigolyn yn gallu casglu dau becyn o saith dyfais hunan-brawf llif unffordd (LFD) i’w defnyddio gartref. Argymhellir cynnal profion ddwywaith yr wythnos gyda’r canlyniadau’n cael eu cofnodi ar borth Llywodraeth y DU (Report a COVID-19 rapid lateral flow test result – GOV.UK (www.gov.uk))

Mae’r ddarpariaeth brofi ychwanegol hon (a elwir yn ‘LFD Collect’) wedi’i chyflwyno ledled Cymru gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i chynlluniau i leddfu cyfyngiadau yn raddol. Nid yw’n newid sut mae pobl â symptomau eisoes yn cyrchu profion COVID-19 yn lleol neu gyngor cyfredol Llywodraeth Cymru i weithio gartref lle bynnag y bo modd.

Gall unrhyw un yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro y mae’n ofynnol iddynt fynd i’r gweithle yn gorfforol, os dymunant, gasglu pecynnau profi (LFD) o’r safleoedd gyrru drowdd a restrir isod.

Nid oes angen gwneud apwyntiad, oherwydd gellir casglu’r rhain rhwng 9.30am a 12.30pm, saith diwrnod yr wythnos.

  • Aberystwyth – Canolfan Rheidol (Pencadlys Cyngor Sir Ceredigion), Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE
  • Caerfyrddin – Safle Maes y Sioe Caerfyrddin, Nant-y-Ci, Caerfryddin, SA33 5DR
  • Hwlffordd – Archifdai Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 2PE
  • Llanelli – Dafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 8QW

Os yw canlyniad y prawf LFD yn negyddol, gall yr unigolyn fynychu’r gwaith.

Os yw’r canlyniad yn bosifif, rhaid i’r unigolyn archebu prawf PCR COVID-19 y prynhawn hwnnw trwy borth ar-lein y DU yn www.llyw.cymru/coronafeirws neu trwy ffonio 119 yn y ffordd arferol. Bydd profion ar gael yn yr holl safleoedd uchod. Rhaid i unigolion ac aelodau eu teuluoedd hunan-ynysu wrth aros am eu canlyniad (PCR).

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r gwasanaeth casglu newydd hwn yn ategu’r ddarpariaeth brofi ehangach sydd gennym eisoes yn Hywel Dda a Chynllun Profi Gweithle Llywodraeth Cymru, sy’n darparu ar gyfer sefydliadau sydd â gweithluoedd mwy. Bydd pobl yn gallu mynychu i’w gweithle yn ddiogel, os oes ganddynt ganlyniad prawf negyddol, a bydd yn helpu i leihau trosglwyddiad pellach y feirws.

“Rydym yn gwerthfawrogi’r ymdrechion y mae pobl yn eu gwneud i helpu i amddiffyn ei gilydd yn ystod y pandemig. Mae angen i bawb ddilyn yr arweiniad o hyd, hyd yn oed os cânt eu brechu, trwy wisgo gorchuddion wyneb lle bo angen, pellhau cymdeithasol a golchi dwylo yn rheolaidd, i’n helpu i fyw a gweithio ochr yn ochr â’r feirws tra’n osgoi ei ledaeniad. ”

Hyd yn oed os ydi canlyniad LFD neu PCR yn negyddol yn flaenorol, dylai unrhyw un sy’n datblygu symptomau’r feirws (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli / newid blas neu arogl) neu symptomau eraill tebyg i ffliw (cur pen, blinder poenau cyffredinol) hunan-ynysu ac archebu prawf cyn gynted â phosibl trwy borth ar-lein y DU yn www.llyw.cymru/coronafeirws neu trwy ffonio 119.

Diolch am gadw Hywel Dda yn ddiogel.

I gael y newyddion a diweddariadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i htpps://www.hduhb.wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle