Iaith a chyfathrebu yw prif sêr drama ddigidol newydd

0
367

Mae’r awdur Alun Saunders (Pobol Y Cwm, A Good Clean Heart: Best Playwright Wales Theatre Awards 2016), Cynyrchiadau Deaf & Fabulous a Chwmni Theatr Taking Flight yn cyflwyno FOW, drama galonnog, ddifyr a doniol a gafodd ei rihyrsio a’i recordio’n arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein.

Alun Saunders

Cyflwynir y darn teirieithog hwn ar y cyd â Neuadd Les Ystradgynlais a Theatrau Sir Gâr, ac mae tocynnau ar gael gan y ddau safle ar gyfer pob perfformiad rhwng 29ain Ebrill a 5ed Mai.

Mae Lissa’n ferch fyddar, hunan-ddiffynnol sy’n methu ymdopi yn y brifysgol – y peth olaf sydd eisiau arni ar hyn o bryd fyddai syrthio mewn cariad. Crwt wedi’i faldodi o Bontardawe yw Siôn. Mae’n breuddwydio am fod yn seren roc, wedi drysu ei ben mewn cariad, ac mae rhywun ar fin torri ei galon.

A beth am Josh…wel, y cwbl mae Josh eisiau yw curo’r Bos cas ar ddiwedd lefel nesaf y gêm. Gyda hiwmor, gonestrwydd a PHETH WMBREDD o gamddeall a chamgyfathrebu, mae FOW yn gofyn inni sut gallwn ni syrthio mewn cariad pan nad ydyn ni’n clywed ein gilydd – ac mae’n darganfod bod yna ffordd BOB AMSER os chwiliwn ni’n ddigon craff.

Mae’r sioe’n cymysgu Cymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae’n seiliedig ar syniad gan yr actores Fyddar Stephanie Back, sydd hefyd yn chwarae rôl Lissa. Aelodau eraill y cast yw Jed O’Reilly ac Ioan Gwyn, sydd ill dau’n adnabyddus am eu gwaith ar S4C (Stwnsh Sadwrn, Pobol Y Cwm).

Eglurodd Steph pam yn union yr oedd hi mor awyddus i’r stori yma gael ei hadrodd:

“Mae fy mrwdfrydedd i dros FOW yn tarddu o fy hanes personol i. Ces i fy ngeni yn clywed, ond es i’n ddwys-Fyddar yn 15 oed; Ro’n i’n methu defnyddio iaith arwyddion, ac roedd darllen gwefusau’n amhosib. Ro’n i heb iaith. Yn y brifysgol dechreuais i ddarganfod fy hunaniaeth ddiwylliannol trwy iaith; darganfues i gymuned yr oedd iaith arwyddion yn iaith gyntaf iddi; darganfues i fy hunaniaeth i, lle yr o’n i’n perthyn iddo. Hynny yw, y gymuned Fyddar; ’doedd gan yr iaith yr o’n ni’n ei defnyddio (Iaith Arwyddion Prydain: BSL) ddim yr un hawliau â Saesneg lafar. Roedd grym yn ein dwylo ni ac awydd cryf i frwydro dros ein hawl i gael ein gweld. Wrth symud yn ôl i Gymru a dechrau archwilio fy etifeddiaeth Gymreig, des i i weld bod y Gymraeg wedi dioddef tynged debyg i BSL. Teimlais i fod rhaid archwilio hyn: y wleidyddiaeth, y gorthrwm, yr hanesyn wahanol, ond yr un peth. Grym trawsnewidiol iaith, a phwysigrwydd hyn fel rhan o’n hunaniaeth ni – dyna beth symbylodd y prosiect yma. Heddiw, yn fwy nag erioed, mae angen stori gadarnhaol am gyfathrebu arnon ni.”

Mae FOW yn gosod cynulleidfaoedd sy’n clywed mewn sefyllfa a fydd yn gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Byddarmae Lissa’n defnyddio BSL, mae Siôn yn siarad Cymraeg yn bennaf, ac yn Saesneg mae Josh yn arfer cyfathrebu – dim ond rhywun sy’n deall y tair iaith hyn fydd yn gallu dilyn a deall pob gair o’r ddrama felly. Fe anfonir dolen i’r gynulleidfa fel y gallant wylio’r sioe, gyda sesiwn Holi ac Ateb fyw ar ddiwedd rhai perfformiadau; a bydd dolen arall er mwyn ail-wylio’r sioe gydag is-deitlau ar gyfer y rhai sy’n awyddus i gydio mewn unrhyw fanylion a gollwyd ganddynt y tro cyntaf.

Eglura’r Gyfarwyddwraig Elise Davison:

Mae’n dipyn o naid ffydd i gynulleidfaoedd ddewis gwylio rhywbeth na fyddan nhw efallai’n ei ddeall yn llwyr, ond mae’r ymateb a gawson ni gan gynulleidfaoedd prawf tra o’n ni’n datblygu’r darn wedi bod yn syfrdanolgan wylwyr sy’n Clywed, gwylwyr Byddar, rhai sy’n medru Cymraeg ac eraill sy’n ddi-Gymraeg fel ei gilydd, mae pawb wedi sôn am sut llwyddon nhw i ddilyn beth oedd yn digwydd, gan ddweud hefyd eu bod nhw wedi mwynhau hyd yn oed pan nad oedden nhw’n deall popethei bod hi wedi rhoi persbectif newydd iddyn nhw. Mae’r actorion i gyd sy’n gweithio ar y sioe mor wych, maen nhw’n llwyddo i gyfleu’r ystyr trwy gymaint mwy na’r geiriau. Tra bod Alun wedi ysgrifennu sgript hyfryd inni felly, mae e wedi mynd ati gan wybod na fydd rhannau o’r gynulleidfa’n gallu dilyn pob gair, ac o ganlyniad mae’n ddarn gwir weledol – ac mae hyn wrth gwrs yn wir anghyffredin mewn theatr digidol”.

Stori wir galonogol yw hon, a adroddir ar-lein mewn sawl iaith gan gynnwys BSL, Cymraeg a Saesneg. Y bwriad oedd i’r cynhyrchiad FOW deithio i wahanol theatrau y llynedd. Rhoes COVID19 derfyn ar y cynllun yma dros dro; aeth y cwmnïau ati felly i ail-ddychmygu’r darn ar gyfer platfform digidol. Cafodd y sgript ei haddasu er mwyn cyflwyno’r stori fel cyfres o fonologau mewn amser real sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd. Mae wedi datblygu i fod yn archwiliad uniongyrchol, doniol, diembaras o’r methiant i gyfathrebu mewn cydberthnasau cyfoes. Diolch i waith dylunio Becky Davies a dylunio sain gan Daniel Larence, dyma gynhyrchiad digidol na welsoch chi ei debyg erioed o’r blaen. Mae FOW yn archwilio iaith, diwylliant, cyfathrebiad, hunaniaeth a chydberthnasau, gan ganolbwyntio’n arbennig ar sut mae’r diwylliant Cymreig a’r Gymraeg yn gallu croesi ar draws y diwylliant Byddar a BSL.

Mae Cwmni Taking Flight yn adnabyddus ledled y genedl am ei ffordd gynhwysol o greu theatr; mae’n creu cynyrchiadau theatr eofn, eithriadol gyda pherfformwyr B/byddar, anabl a rhai nad ydynt yn anabl. Maent yn teithio i bob cwr o Gymru a’r tu draw i gyflwyno eu cynyrchiadau, ac yn aml maent yn eu cael eu hunain yn perfformio mewn mannau anghysbell ac anghyffredin, megis coedwigoedd, gerddi cestyll, canolfannau cymunedol neu orielau siopau yn ogystal â theatrau traddodiadol ac ysgolion. Ydy symud at weithio ar-lein wedi creu sialensau newydd iddynt?

Mae Elise yn parhau:

Hwn fydd y trydydd cynhyrchiad digidol imi ers i’r cyfyngiadau oherwydd y Coronafeirws ddechrau y llynedd. Gan mai cwmni integredig ydyn ni, rydyn ni’n pryderu’n fawr y bydd y camau ymlaen a wnaethon ni hyd yn hyn o ran hwyluso rhwyddfynediad i berfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd yn cael eu colli wrth inni ruthro i weithio ar-lein. Dw i’n awyddus iawn i astudio sut gallwn ni fanteisio ar ein gwaith digidol dros y flwyddyn ddiwethaf yma i wella rhwyddfynediad at ddigwyddiadau yn y celfyddydau. Dyma’r tro cyntaf i lawer ohonon ni orfod hunan-ynysu neu weithio yn ein cartrefi. Nid rhywbeth newydd yw hyn, ac nid rhywbeth fydd yn newid ar ôl i’r cyfnod clo ddod i ben chwaith. I lawer o bobl mae llwyddo i gyrraedd theatr neu fod mewn theatr yn amhosibl. Yr hyn y mae’r cyfnod yma wedi’i roi inni yw’r cyfle i allu archwilio ffyrdd o gynnig profiad cyfartal i bobl nad yw’n fater o ffrydio perfformiad yn unig, rhywbeth sy’n mynd cam ymhellach at greu digwyddiad trochi y gellir ei fwynhau ar blatfform materol neu ddigidol, neu drwy gyfuniad o’r ddau brofiad. I mi mae hynny’n awgrymu llu o bosibiliadau gwir gyffrous.”

Mae FOW yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd 14+ oed (oherwydd yr iaith fras a’r cyfeiriadau rhywiol). Dysgwch ragor am FOW ar takingflighttheatre.org.uk/fow a rhagarchebwch eich tocynnau ar-lein gyda Theatrau Sir Gâr neu Neuadd Les Ystradgynlais. Pris y tocynnau yw: ‘Talwch Faint Gallwch Chi’.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle