Heddiw mae ymgeisydd Etholiad Senedd Plaid Cymru ar gyfer Pontypridd a Canol De Cymru, Cynghorydd Heledd Fychan wedi amlinellu gweledigaeth ei phlaid i creu ‘cymdogaethau 20 munud’ mewn pob dre a dinas.
Byddai hyn yn golygu darparu mynediad cyfleus a diogel, i gerddwyr i’r lleoedd y mae angen i bobl ymweld a’r gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio bron bob dydd, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, siopau, ysgolion, parciau a gweithgareddau cymdeithasol.
Dywedodd Heledd Fychan y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio i sicrhau y darperir man gwyrdd o ansawdd da o fewn taith gerdded o pum munud i bob cartref yng Nghymru:
“Trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, mae llawer o bobl wedi bod yn cerdded, beicio a rhedeg llawer mwy yn eu parciau lleol ond nid yw pawb yn ddigon ffodus i gael lleoedd gwyrdd gerllaw.
“Mae ffigurau’n dangos, ar ddechrau’r pandemig, roedd tua 33,000 o gartrefi yng Nghymru heb fynediad i ofod awyr agored preifat.
“Y pellter cyfartalog mae pobl yn byw o barc cyhoeddus neu ardd yw 432 metr. Byddai llywodraeth Plaid Cymru eisiau torri hyn i tua 370 metr – dim mwy na phum munud o gerdded – gan sicrhau y darperir man gwyrdd o ansawdd da o fewn cyrraedd pob cartref.
“Mae’n syniad sydd eisoes wedi’i gefnogi gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n dweud na ddylai mynediad i fannau gwyrdd fod yn loteri cod post ond yn “hawl i bawb.”
“Byddai hyn yn rhan o weledigaeth ehangach llywodraeth Plaid Cymru i greu cymdogaethau 20 munud ym mhob tref a dinas gan ddarparu mynediad cyfleus a diogel i gerddwyr i’r lleoedd y mae angen i bobl fynd a’r gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio bron bob dydd.
“Mae’r rhain yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, siopau, ysgolion, parciau a gweithgareddau cymdeithasol, ac yn archwilio’r potensial ar gyfer llwybrau beicio pellter hirach ar hyd rhwydweithiau ffyrdd o ganolfannau rhanbarthol sydd â thraffig cymudwyr sylweddol fel Aberystwyth, Bangor, Merthyr a Pontypridd.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle