Mae ymgeisydd Etholiadau Senedd Plaid Cymru ar gyfer Ynys Mon Rhun ap Iorwerth, heddiw wedi addo creu rhwydwaith o 14 o ‘ganolfannau lles ieuenctid’ ledled Cymru i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai’r canolfannau cerdded i mewn yn cynnig ymyrraeth gynnar i bobl ifanc nad ydyn nhw’n ddigon sâl i fod angen triniaeth seiciatryddol uwch ond sydd angen cefnogaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl o hyd ac felly’n agored i “lithro drwy’r rhwyd.”
Mae ffigurau yn dangos bod mwy o bobl ym mis Medi 2020 yn aros am driniaeth iechyd meddwl nag unrhyw gyflwr arall.
Byddai’r polisi’n seiliedig ar fodel llwyddiannus a ddefnyddir yn Seland Newydd a byddai’n chwyldroi’r ffordd y mae pobl ifanc yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl.
Mae polisïau Plaid Cymru ar ddarpariaeth iechyd meddwl ieuenctid wedi cael eu cefnogi gan grewr a golygydd Bricks Magazine, Tori West, sy’n aml yn trafod iechyd meddwl gyda’i dilyniant mawr ar ei llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Nododd Ms West y byddai canolfannau lles ieuenctid Plaid yn “gam gwych ymlaen i Gymru”, ac wrth fyfyrio ar ei phrofiadau ei hun dywedodd ei bod yn teimlo na fyddai ei symptomau wedi datblygu wrth iddi heneiddio pe bai wedi cael mynediad at gefnogaeth pan oedd hi iau.
Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru a llefarydd iechyd Rhun ap Iorwerth:
“Fel tad i dri person ifanc, rwy’n gwybod pa mor galed y bu’r pandemig a’r holl heriau a ddaw gydag ef i’w cenhedlaeth nhw.
“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn creu rhwydwaith cenedlaethol o 14 o ganolfannau lles mewn adeiladau yng nghanol y dref sydd heb eu defnyddio ar hyn o bryd lle gallai pobl ifanc gael cyngor gan gwnselwyr a therapyddion.
“Canfu ymchwil gan Mind Cymru fod 74% o bobl ifanc 13-24 oed wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi dirywio yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
“Mae yna berygl gwirioneddol y gallai’r bobl ifanc hyn nad ydyn nhw’n ddigon sâl i fod angen triniaeth seiciatryddol ddatblygedig ond sy’n dal i fod angen cymorth iechyd meddwl lithro drwy’r rhwyd.
“Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud ledled Cymru gan ganolfannau cymorth a sefydliadau, ond mae angen ac yn haeddu llawer mwy o gefnogaeth ar fentrau o’r fath.
“Byddai cynlluniau Plaid yn anelu at lenwi’r bwlch mawr yn y ddarpariaeth sydd wedi tyfu o dan y llywodraeth Lafur ddiwethaf ac anfon neges glir at bobl ifanc Cymru ein bod yn gadarn ar eu hochr nhw.”
Dywedodd Tori West, eiriolwr iechyd meddwl a golygydd a chrëwr Bricks Magazine,
“Mae polisïau Plaid Cymru ar iechyd meddwl pobl ifanc yn gam gwych ymlaen i Gymru, ac mae’n bwysig i mi yn benodol oherwydd fy mhrofiadau fy hun o fewn y system.
“Mae ymyrraeth gynnar a mynediad cynnar cyn i rywun gyrraedd trobwynt yn hanfodol, rhywbeth y byddai’r Canolfannau Lles Ieuenctid yn chwarae rhan enfawr ynddo.
“Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn gallu cerdded i mewn i’r canolfannau hyn a chael gafael ar gymorth pan fyddant yn teimlo bod ei angen arnynt, yn ogystal â bod mwy o ddarpariaeth o CBT ac adsefydlu i’r rheini ag anhwylderau bwyta.
“Rwy’n teimlo pe bawn i wedi cael cynnig mwy o gefnogaeth yn gynharach mewn bywyd, byddai wedi fy atal rhag cael symptomau gwaeth wrth imi heneiddio.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle