Byddai caniatáu i’r sector fasnachu eto yn “rhoi hwb i fusnesau Cymru” meddai.
Canmolodd Mr Price “ymdrech gyfunol y cyhoedd yng Nghymru a staff rheng flaen y GIG” am eu rhan yn lleihau nifer yr achosion a chyflymu’r rhaglen cyflwyno brechlyn.
Wrth siarad cyn adolygiad nesaf Covid ddydd Gwener dywedodd Adam Price;
“Mae’r sector lletygarwch wedi dioddef mwy na nifer ers dechrau’r pandemig ac wedi dangos gwytnwch anghredadwy er gwaethaf cyfnodau o agor ac ailagor dro ar ôl tro.
“Bydd caniatáu lletygarwch i ailagor dan do, gyda mesurau priodol ar waith, yn rhoi hwb i fusnesau Cymru.
“Byddai rhoi eglurder heddiw yn caniatáu amser i fusnesau gynllunio ar gyfer ailagor a sicrhau bod eu hailhagor cydymffurfio â Covid fel y gall cwsmeriaid fwynhau sector lletygarwch rhagorol Cymru unwaith eto gyda hyder llawn yn eu diogelwch.
“Mae’r mwyafrif o fusnesau yn parhau i wynebu’r tebygolrwydd o fod ar gau am fis arall, heb gefnogaeth ariannol ddigonol. Rhaid cyflwyno grantiau ailgychwyn, tebyg i’r rhai sydd ar gael gan Lywodraeth yr Alban yng Nghymru i helpu busnesau i ailagor yn raddol.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle