Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddiolch i Mia o Aberdaugleddau, sy’n chwech oed, am ei diffyg cyffro a’i gallu i feddwl yn gyflym wrth rybuddio cymydog i ffonio 999 i roi gwybod am dân mewn eiddo.
Brynhawn Sul, 28 Mawrth 2021, roedd Mia yn cerdded heibio i gefn fflat pan sylwodd ar fwg yn dod allan o’r eiddo. Gan ei bod wedi cael ei dysgu am bwysigrwydd rhoi gwybod am dân, aeth Mia ati ar unwaith i guro ar ddrws cymydog i ddweud wrtho. Yna, ffoniodd y cymydog 999 a gofyn am y Gwasanaeth Tân
Am 5:52pm, cafodd y Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd yr alwad, ac anfonwyd criwiau o Aberdaugleddau i ymateb i’r tân yn yr eiddo yn Aberdaugleddau.
Roedd y tân wedi’i gadw yn ardal cegin y fflat llawr gwaelod, ac wedi cynnau o gadach sychu llestri a oedd wedi cael ei adael ar hob trydan.
Aeth y diffoddwyr tân ati i ddiffodd y tân trwy ddefnyddio dau gyfarpar anadlu, jet olwyn piben a chamera delweddu thermol.
Gadawodd y Gwasanaeth Tân y digwyddiad am 7:03pm.
Dywedodd y Rheolwr Criw Rob Makepeace, Gorsaf Dân Aberdaugleddau, “Oherwydd gweithredu cyflym Mia, roeddem wedi gallu ymateb i’r tân yn gyflym, ac ni chafodd y tân gyfle i waethygu. Mae’n arwres leol, ac yn esiampl i bawb.
Po gyntaf yr ydych yn rhoi gwybod am dân, cyflymaf y gall y Gwasanaeth Tân ymateb i’w ddiffodd a’i atal rhag lledaenu.
Yn ffodus, ar yr adeg hon, roed Mia wrth law i sylwi ar y tân a dweud wrth rywun am ffonio 999, ond byddwn yn annog pawb i osod larymau mwg sy’n gweithio yn eu cartrefi, a’u profi’n rheolaidd. Gall larwm mwg sy’n gweithio eich rhybuddio’n gynt am dân, a’ch galluogi i fynd allan, aros allan, a ffonio 999 i ofyn am y Gwasanaeth Tân.”
I gael rhagor o gyngor ar Ddiogelwch Rhag Tân yn y Cartref, neu i siarad am y posibilrwydd o gael Ymweliad Diogel ac Iach gan bersonél y Gwasanaeth Tân ac Achub, ffoniwch ni ar 0800 169 1234. Fel arall, llenwch y ffurflen ar-lein i ofyn am Ymweliad Diogel ac Iach, a hynny ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: https://www.tancgc.gov.uk/cym/diogelwch/yn-y-cartref/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle