Mae Compass Group UK & Ireland, cwmni bwyd a gwasanaethau cefnogaeth mwyaf y Deyrnas Unedig, wedi lansio Compass Cymru fel busnes neilltuol o fewn y Grŵp. Mae’r busnes yn ymroddedig i gefnogi diwydiant lletygarwch Cymru, gan hyrwyddo cyflenwyr lleol a meithrin y genhedlaeth newydd o dalent, gan gyhoeddi o leiaf 50 o gyfleoedd prentisiaeth newydd eleni.
Dan arweiniad Jane Byrd, Rheolwr Gyfarwyddwr Compass Cymru, mae’r sefydliad yn gweithredu mewn mwy na 60 safle ar draws Cymru, gan gyflogi miloedd o bobl. Gan ddarparu gwasanaethau arlwyo a chefnogaeth blaengar, cynaliadwy ac ansawdd uchel ar draws sectorau yn cynnwys chwaraeon a hamdden, addysg, amddiffyn ac arlwyo gweithlu, mae’r cwmni yn hybu argaeledd cynnyrch Cymreig drwy ei gadwyn gyflenwi, gyda ffocws ar gynnyrch cynaliadwy a thymhorol.
Mae ymrwymiad i bobl, cefnogi datblygiad a chreu swyddi ar gyfer Cymru gyda ffocws gwirioneddol ar lesiant a datblygu sgiliau yn ganolog i fusnes newydd Compass Cymru. Fel rhan o’r lansiad, mae Compass Cymru wedi cyhoeddi lleoedd i o leiaf 50 prentis o fewn y 12 mis nesaf.
Wrth siarad am y lansiad dywedodd Jane Byrd, Rheolwr Gyfarwyddwr Compass Cymru: “Cafodd busnes Compass Cymru ei adeiladu ar ymddiriedaeth, tryloywder ac yn bennaf oll ddull gweithredu rhanbarthol i gyflenwi partneriaethau o’r radd flaenaf. Mae ein gwaith yn arddangos pantri naturiol gwych Cymru ac yn cefnogi’r economi lleol, a rydym yn ysgogi ein cadwyn gyflenwi ar gyfer mwy o effaith cadarnhaol.
“Rydym yn cynnig swyddi ystyrlon gyda thwf cynhwysol, a gefnogir gan ein rhaglen prentisiaeth sydd newydd ei hadfywio. Fe wnaethom greu ein hyb pobl, Constellation Cymru, yn ddiweddar gan ddangos ein bod yn wirioneddol arwain y farchnad wrth greu gweithlu cysylltiedig gyda chyfleoedd cyflogaeth lluosog ar draws ein holl safleoedd yng Nghymru.”
Mae’r Chef Bryn Williams yn bartner i Compass Cymru fel Llysgennad Coginiol. Bydd Bryn Williams yn cyfrannu at y rhaglen prentisiaeth a hyfforddiant, gan weithio’n agos fel ymgynghorydd i Compass Cymru i sicrhau bod ysbryd bwyd a diod o Gymru yn parhau ar flaen ac wrth ganol y cynnig busnes.
Wrth siarad am ei ymwneud, dywedodd Bryn Williams: “Mae’n anrhydedd fawr i mi fod yn Llysgennad Coginiol ar gyfer Compass Cymru. Mae gan Gymru bantri bwyd gyda’r gorau yn y byd a defnyddio cynhwysion Cymreig gan gyflenwyr lleol yw’r asgwrn cefn yn fy holl geginau, gan roi llwyfan i mi ar gyfer cysondeb yn fy holl fwytai.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Compass Cymru ar ddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig. Rwy’n credu fod lletygarwch yn parhau yn ddewis gyrfa cyffrous ac mae cyhoeddi’r rhaglen prentisiaeth ar gyfer Compass Cymru yn arddangos ei ymrwymiad i dalent cynhenid Cymru, a bod cyfleoedd ar gael i’r rhai sy’n edrych amdanynt.”
Bydd Compass Cymru yn creu rhwydwaith busnes fydd yn datblygu dyfnder a chryfder ym mhob un o’i segmentau marchnad, gan gyfnerthu partneriaethau strategol gyda chyflenwyr lleol a dosbarthwyr i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: www.compass-group.co.uk/compass-cymru
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle