BIP Hywel Dda yn annog pobl i fwcio ail apwyntiad brechlyn Pfizer

0
281

Mae’r bwrdd iechyd yn gofyn i unrhyw un a dderbyniodd frechlyn cyntaf Pfizer yn un o’n canolfannau brechu torfol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro fwy na 21 diwrnod yn ôl i gysylltu os nad ydyn nhw wedi derbyn apwyntiad ar gyfer ail frechlyn.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:  “Mae ail ddosau yn hanfodol ar gyfer amddiffyniad tymor hir, felly mae’n bwysig bod pawb yn dod ymlaen ar gyfer eu cwrs llawn pan gânt eu galw.

“Mae ein cofnodion yn dangos nad yw nifer fach o bobl ar draws ein tair sir wedi ymateb i’n gwahoddiad i dderbyn eu hail ddos. Ni fyddem yn gadael unrhyw un ar ôl ac mae amser o hyd iddynt ei dderbyn o fewn yr amserlen ofynnol. ”

Bydd clinigau ychwanegol yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf i weinyddu’r ail ddosau hyn. Os yw wedi bod yn fwy na 21 diwrnod ers eich brechlyn Pfizer cyntaf, e-bostiwch COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk gyda’r teitl pwnc “Cais- ail ddos Pfizer” gyda’ch enw llawn, dyddiad y brechlyn cyntaf a rhif ffôn cyswllt er mwyn archebu eich apwyntiad. Os na allwch anfon e-bost gallwch hefyd gysylltu â’r bwrdd iechyd trwy ffonio 0300 303 8322.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle