Gwerth £11,000 o ganabis yn cael ei ganfod mewn cartref yn Sir Gaerfyrddin

0
774

Mae’r heddlu wedi atafaelu gwerth amcangyfrifol o £11,000 o ganabis yn ystod gwarant yn Sir Gaerfyrddin.

Chwiliodd Heddlu Dyfed-Powys gartref yn Cross Hands ddydd Mawrth 20 Ebrill, lle y daethpwyd o hyd i ganabis llysieuol, £5,000 mewn arian parod, teclynnau yn ymwneud â chyffuriau a swm bach o bowdwr gwyn.

Roedd y canabis yn pwyso 2 gilogram, ac amcangyfrifir mai £11,000 yw ei werth ar y stryd.

Daethpwyd o hyd i ddeiliad y tŷ, nad oedd yn bresennol, a bydd yn cael ei gyfweld mewn perthynas â throseddau deddf elw troseddau, cynhyrchiant cyffuriau posibl, a meddu â’r bwriad o werthu.

Dywedodd y Rhingyll Gavin Phillips: “Cyflawnwyd y canlyniad cadarnhaol hwn diolch i ymdrechion y tîm plismona bro yn Cross Hands wrth iddynt weithio gyda’r gymuned a phartneriaid er mwyn ymdrin â phryderon a mynd i’r afael â gwerthu cyffuriau yn yr ardal.

“Yr ydym yn gobeithio bod hyn yn tawelu meddyliau’r gymuned mai eu diogelwch nhw yw ein blaenoriaeth.”

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â gwerthu neu ddefnyddio cyffuriau, medrwch roi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys drwy un o’r dulliau canlynol:

Ar-lein: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/

E-bost: 101@dyfed-powys.pnn.police.uk

Ffôn: 101

Galwch 999 bob amser mewn argyfwng


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle