Adolygiad cyfyngiadau coronafirws: Byddai Plaid Cymru yn ailagor lletygarwch dan do o Fai 17eg Arweinydd y Blaid Adam Price yn cadarnhau

0
480
Adam Price - Plaid Cymru Leader

Byddai Llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn ôl-ddyddio cefnogaeth ariannol i Ebrill 26ain

 

Wrth ymateb i’r diweddariad diweddaraf ar gyfyngiadau Coronafeirws gan Lywodraeth Cymru, meddai Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price,

 

“Mae ymdrech arbennig pobl Cymru ar y cyd gyda gwaith arwrol ein staff iechyd gwladol i gyflwyno’r brechlyn wedi caniatáu llacio cyfyngiadau.

 

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cynllunio ar gyfer ailagor lletygarwch dan do, llety i dwristiaid, sinemâu a lleoliadau adloniant eraill ar Fai 17eg. Er mwyn rhoi busnesau ar y sylfaen orau bosibl, byddai ein camau cyntaf mewn Llywodraeth yn cynnwys darparu grantiau cychwyn ar gyfer busnesau lletygarwch.

 

“Byddai cymorth ariannol ychwanegol hefyd yn cael ei ôl-ddyddio i Ebrill 26ain ar gyfer y busnesau hynny na allant fasnachu’n hyfyw ar sail agor yn yr awyr agored yn unig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle