Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio llosgyddion gardd

0
326

Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, bydd llawer ohonom yn brysur yn glanhau ein cartrefi ac yn tacluso ein gerddi er mwyn paratoi ar gyfer ein haf hyfryd yng Nghymru!!

Er bod cael cartref trefnus a gardd daclus yn ganlyniad dymunol, yn aml gall cael gwared ar y gwastraff fod yn dasg y mae’n well gan lawer o bobl fynd i’r afael â hi trwy losgi eu sbwriel mewn llosgydd gardd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog y cyhoedd i feddwl ddwywaith ynghylch yr angen i losgi eu gwastraff, ac, yn lle hynny, eu bod yn cael gwared ar eu sbwriel mewn modd cyfrifol ar safleoedd gwaredu gwastraff awdurdodau lleol.

Ddydd Gwener 16 Ebrill 2021, galwyd criwiau o Dreforys ac Abertawe Canolog i dân mewn eiddo yng Nglandŵr, Abertawe.

Roedd y tân wedi tarddu o losgydd gardd a gafodd ei osod a’i gynnau ger strimiwr petrol, can petrol a wal allanol gegin yr eiddo. Roedd y gwres a gynhyrchwyd o’r llosgydd wedi achosi i’r tanwydd yn y can petrol ehangu, gollwng trwy’r cap a ffrwydro.

Cafodd chwech o bobl eu caethiwo yng nghefn yr ardd gan y tân ond, diolch byth, nid anafwyd yr un ohonynt. Difrodwyd y ffasgia a’r cafnau a pheipiau glaw yng nghefn yr eiddo ac roedd y strimiwr ac addurniadau gardd wedi toddi.

Diffoddwyd y tân cyn i’r Gwasanaeth Tân gyrraedd ac aeth y criwiau ati i wneud y lleoliad yn ddiogel.

Dywedodd y Rheolwr Gorsaf Richie Vaughan Williams, “Lwc pur oedd hi na chafodd neb ei niweidio yn ystod y digwyddiad hwn.

Gellir dod o hyd i losgyddion gardd mewn llawer o siopau; maent yn rhad i’w prynu, ac yn aml does dim cyngor diogelwch yn cael ei ddarparu gyda nhw. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod llosgydd sydd wedi’i gynnau yn cynhesu’r ddaear y mae wedi’i osod arni, a gall roi ffens neu sied ar dân os caiff ei osod ger y gwrthrychau llosgadwy hyn.

Mae’n hysbys hefyd fod rhai llosgyddion gardd wedi cracio yn eu hanner oherwydd y gwres a ddaw ohonynt.

Byddwn yn annog pawb i ystyried yn ofalus a oes gwir angen iddynt losgi eu sbwriel, ac, yn lle hynny, eu bod yn defnyddio gwasanaethau gwaredu gwastraff eu hawdurdod lleol”.

Cyngor Allweddol ar Ddiogelwch

Os yw’n hanfodol eich bod yn llosgi eich sbwriel a’ch gwastraff gardd ar goelcerth, yna dilynwch y rheolau syml hyn sy’n cael eu hyrwyddo gan Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân:

  • Yn y lle cyntaf, a yw hyn yn gwbl angenrheidiol?
  • Os yw yn angenrheidiol, yna dylid gosod coelcerthi yn ddigon pell i ffwrdd oddi wrth adeiladau, ffensys, coed, ac adeiladau ac adeiladweithiau gardd.
  • Os yn bosibl, dylid llosgi sbwriel gardd mewn llosgydd gardd. Dylid gosod y llosgydd gardd ar arwyneb gwastad nad yw’n llosgadwy, er enghraifft slab patio.
  • NI DDYLID defnyddio hylifau neu gyflymyddion fflamadwy i gynnau’r goelcerth.
  • Dylid goruchwylio’r goelcerth trwy’r amser.
  • Dylai dull o reoli’r goelcerth fod wrth law, e.e. piben ddyfrhau.
  • Rhaid gwirio’r gyfraith/deddfau lleol bob amser i sicrhau cydymffurfedd.
  • Mewn achos brys dylid ffonio 999.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle