Dal ati i greu atgofion melys mewn cegin fwy diogel
@registerymyappliance.org.uk
Wrth i ni ddychwelyd i’r un hen drefn, yn ystod wythnos Register My Appliance, mae Gwasanaeth Tân ac Achub am atgoffa aelwydydd i fynd o amgylch y cartref a mynd ati i gofrestru’r dros 100 miliwn o hen gyfarpar a’m cynhaliodd ni a’n difyrrodd ni yn ystod y clo.
Mae’r gegin wedi bod yn lle arbennig dros y flwyddyn ddiwethaf. Gyda help ambell gyfarpar pwysig, fe lwyddodd pawb nid yn unig i gadw’r cartref yn dwt a glân a phorthi’r teulu, ond hefyd i greu atgofion melys yn ystod cyfnod anodd iawn.
Ac eto dengys ymchwil gan y llywodraeth[1] nad ydi 49% o bobl erioed wedi cofrestru eu cyfarpar – rheiny yr ydym ni’n eu defnyddio ar gyfer tasgau beunyddiol fel coginio a chadw bwyd yn oer, golchi dillad a llestri a glanhau – cyfanswm o 210 miliwn o gyfarpar.
Fel rhan o’r ymgyrch Fire Kills, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog pobl i wneud y cartref yn lle mwy diogel trwy fynd i registermyappliance.org.uk i gofrestru eu peiriannau i wneud yn siŵr bod yr holl gyfarpar sydd ganddyn nhw- yn enwedig hen gyfarpar – wedi cael eu cofrestru rhag ofn iddynt gael eu hadalw am resymau diogelwch. Mae bron i 60 o’r brandiau mwyaf poblogaidd wedi eu cynnwys yn y porth, a ddatblygwyd gan y Gymdeithas Gwneuthurwyr Cyfarpar Domestig (AMDEA), ac mae’r rhan fwyaf o frandiau yn barod i dderbyn manylion cyfarpar hyd at 12 oed.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog y cyhoedd i gofrestru’r cyfarpar a wnaeth eu helpu nhw yn ystod y cyfnod clo, ynghyd ag unrhyw gyfarpar eraill sydd ganddynt yn y cartref.
Dywedodd Will Bowen, Rheolwr Diogelwch Tân yn y Cartref: “Er bod y cyfyngiadau’n cael eu llacio, rydym yn dal i ddefnyddio’n ceginau’n aml ac felly dyma gyfle i atgoffa pobl i gofrestru’r cyfarpar na allant fyw hebddynt – yn enwedig hen gyfarpar- rheiny sydd wedi eu helpu drwy’r cyfnod clo. Peidiwch â’u cymryd nhw na’ch diogelwch yn ganiataol. Mae hefyd yn hanfodol gwneud yn siŵr bod unrhyw gyfarpar yn cael ei osod a’i ddefnyddio’n unol â’r cyfarwyddiadau, ac mae cyngor ar sut i ddefnyddio cyfarpar yn ddiogel hefyd ar gael ar y porth Register My Appliance.“
Mae ein ceginau wedi bod yn rhan ganolog o’n bywydau dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn ôl arolwg newydd gan AMDEA[2], maent wedi dod yn llefydd unigryw a hudolus ar adegau.
Yn ôl yr arolwg roedd arbrofi gyda choginio yn bwysig i nifer. Yn ogystal â phobi danteithion (31%) a rhoi cynnig ar ryseitiau newydd (20%). Roedd gweithgareddau llai traddodiadol hefyd yn cael eu cynnal yn y gegin. Roedd y gegin yn lle i gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a pherthnasau i un o bob pump o’r cyfranogion (22%) ac fe gynhaliodd 16% barti ar-lein, disgo, noson Karaoke a chwisiau yn y gegin, tra roedd y gegin yn gampfa neu’n salon trin gwallt a harddwch i 15% ohonynt.
I bron i un o bob pump (19%), y gegin oedd calon y cartref, i 13% roedd yn lle i gael hwyl ac i 13% arall roedd yn noddfa. Roedd y gegin hefyd yn swyddfa i 10% ar hyd a lled y wlad gyda’r ffigwr hwn yn codi i 20% yn Llundain.
Yn ystod hyn oll fe weithiodd ein cyfarpar yn fwy caled nag erioed. Fe wnaeth bron i hanner (43%) lenwi eu hoergelloedd a rhewgelloedd yn llawn dop er mwyn lleihau siwrneiau i’r archfarchnad ac roedd poptai a hobïau yn hanfodol i 38%, wrth i bawb fwyta prydau bwyd gartref a hyd yn oed goginio sawl pryd ar y tro i fod yn drefnus. Fe wnaeth un o bob pedwar o aelwydydd (24%) roi’r peiriant golchi ymlaen yn amlach i olchi dillad a llieiniau; dywedodd bron i chwarter o aelwydydd (24%) bod y sugnwyr llwch wedi bod yn arf handi iawn gan eu bod wedi gorfod glanhau’n amlach. A heb anghofio’r tegelli a pheirannau coffi a oedd ymlaen yn dragywydd yn un o bob pump o geginau (21%).
Ond yn ôl yr arolwg barn gan ddefnyddwyr ar hyd a led y wlad, mewn cartrefi rhent a phreifat, dywedodd y rhan fwyaf o bobl (83%) nad oeddent yn gwybod sut i gofrestru eu cyfarpar na’n meddwl ei bod hi’n bosib cofrestru hen gyfarpar, yn enwedig os nad nhw oedd wedi prynu’r cyfarpar yn y lle cyntaf. Roedd hyn yn cynnwys cyfarpar a oedd yn y cartref pan wnaethant symud i mewn, eitemau wedi eu prynu’n ail-law neu hen eitemau a oedd wedi cael eu rhoi iddynt gan aelodau’r teulu neu ffrindiau.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle