Plaid Cymru yn cadarnhau’r nod hirdymor o hyfforddiant prifysgol am ddim gan ddechrau gyda chap ffioedd is

0
397
Adam Price - Plaid Cymru Leader

Heddiw (dydd Llun 26 Ebrill), mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi cadarnhau nod hirdymor ei blaid o wneud addysg prifysgol yn rhad ac am ddim eto, gan ddechrau gyda chap is ar ffioedd.

Byddai llywodraeth Plaid Cymru, pe bai’n cael ei hethol ym mis Mai, yn lleihau uchafswm y ffi dysgu y codir ar fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru ym mhrifysgolion Cymru i £7,500. 

Dywedodd Adam Price hefyd y byddai llywodraeth Plaid yn codi’r taliad grant addysgu sy’n gysylltiedig â phob myfyriwr i adlewyrchu costau rhesymol eu pwnc yn well yn ogystal a’i werth economaidd cymdeithasol i fyfyrwyr a threthdalwyr.

Ychwanegodd Mr Price y byddai Plaid Cymru hefyd yn cynyddu cyllid grant i’r myfyrwyr mwyaf difreintiedig fel bod mwy o adnoddau ariannol yn cyrraedd y sefydliadau sy’n addysgu’r myfyrwyr sydd fwyaf tebygol o fod angen cymorth ychwanegol.

Dywed Owain Arwel Jones, disgybl yn Ysgol Thomas Jones yn Amlwch, ei fod wastad wedi bod eisiau mynd i’r Brifysgol, ond ei fod wedi bod yn ailystyried ei gynlluniau oherwydd ofnau y gallai rhai cyfleusterau gau eto, a byddai dal ddisgwyl i fyfyrwyr dalu’r costau yn llawn. Mae gwybod y byddai Plaid Cymru yn cyflwyno cap uniongyrchol o uchafswm ffioedd, meddai Owain, yn rhoi iddo’r “sicrwydd ychwanegol” i gadarnhau mai mynd i’r Brifysgol yw’r penderfyniad cywir. 

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, ac ymgeisydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price:

“Mae pobl ifanc wedi cael eu taro’n arbennig o galed gan y pandemig Covid gyda llawer ohonyn nhw yn ailfeddwl eu hopsiynau yn y dyfodol.

 

“Rydyn ni eisiau gwneud mynediad i addysg brifysgol mor deg â phosib, gan wneud addysg brifysgol am ddim unwaith eto yn y pen draw.

 

“Cam cyntaf llywodraeth Plaid Cymru tuag at gyflawni’r nod hwn fyddai capio ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru ym mhrifysgolion Cymru ar £ 7,500 – gostyngiad o £ 1500.

 

“Byddwn ar y cyd yn cynyddu lefel y cyllid prifysgol uniongyrchol, gan addasu’r taliad grant addysgu sy’n gysylltiedig â phob myfyriwr i adlewyrchu costau rhesymol y pwnc a’i werth cymdeithasol ac economaidd yn well i fyfyrwyr a threthdalwyr.

 

“Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr difreintiedig yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, byddai llywodraeth Blaid hefyd yn cynyddu faint o arian grant addysgu sy’n eu dilyn fel bod yr adnoddau ariannol cywir yn llifo i’r sefydliadau hynny sy’n addysgu’r myfyrwyr sydd fwyaf tebygol o fod angen cymorth o’r fath.

 

“Rydyn ni am wyrdroi’r draen dawn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy gymell ein pobl ifanc i aros yng Nghymru i astudio. Bydd torri ffioedd dysgu wrth fuddsoddi mwy ym mhrifysgolion Cymru – er enghraifft trwy’r cynnydd o £100m yn flynyddol yng nghyllid y llywodraeth ar gyfer ymchwil prifysgolion – yn gwneud prifysgolion Cymru yn fwy deniadol i’n pobl ifanc, gan annog mwy ohonynt yn y dyfodol i aros yma i weithio a byw ar ôl graddio.”


Dywedodd Owain Arwel Jones, disgybl yn Ysgol Thomas Jones yn Amlwch,

“Dwi wastad wedi bod eisiau mynd i’r Brifysgol, ond ar ddechrau’r flwyddyn, bu’n rhaid i mi ailystyried fy nghynlluniau o ddifrif oherwydd y pandemig. Yr hyn sy’n fy ngwneud yn bryderus yw’r ffaith y byddai’n rhaid i mi dalu’r ffioedd dysgu llawn ond efallai na fyddwn yn gallu defnyddio’r holl gyfleusterau os oes rhaid iddynt gau eto oherwydd coronafeirws. Rwyf am astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth, felly bydd defnyddio’r llyfrgell yn bwysig iawn i mi.

“Rwy’n cefnogi addewid Plaid Cymru i gapio ffioedd dysgu ar unwaith, oherwydd byddai hynny’n rhoi’r sicrwydd ychwanegol hwnnw i mi fy mod yn gwneud y penderfyniad cywir, gan wybod nad yw’r ffioedd yn mynd i gynyddu mwyach. Mae’r penderfyniad i fynd i’r Brifysgol wedi’i wneud yn galetach oherwydd y pandemig, a gallwn weld sut y byddai hyn yn atal pobl rhag mynd. Rwy’n llwyr gefnogi cynllun Plaid Cymru i wneud y brifysgol yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb yng Nghymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle