Mae tîm o gwnselwyr arbenigol yn helpu pobl â chanser a’u gofalwyr yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – diolch i roddion elusennol.
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ariannu prosiect peilot, sy’n cynnig cefnogaeth seicolegol i bobl sydd wedi’u diagnosio â chanser ac i’w gofalwyr.
Yn ogystal â helpu cleifion a’u gofalwyr, mae’r gwasanaeth newydd hefyd yn gweithio gyda’r gweithlu canser yn Hywel Dda, gan ddarparu hyfforddiant fel y gall staff gofal iechyd wella eu sgiliau wrth gynnig cefnogaeth seicolegol, ynghyd â goruchwyliaeth a chefnogaeth i rymuso’r timau canser.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth Seicolegol Canser (CaPS) yn cael ei redeg a’i reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac bydd y pedwar cwnselydd yn gweithio ar draws tair sir Hywel Dda.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth Seicolegol Canser yn cynnig cymorth therapiwtig tymor byr o chwech i wyth sesiwn gwnsela, gydag un o’r cwnselwyr canser arbenigol.
Dros y cyfnod peilot, a fydd yn dod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, bydd y gwasanaeth wedi helpu cannoedd o gleifion canser a’u teuluoedd.
Mae’r gwasanaeth yn ymfalchïo nad oes ganddo restr aros a bod yn hyblyg ac yn gweddu i anghenion cleifion, gofalwyr a staff.
Mae’r adnodd hwn o wybodaeth, cyngor ac addysg arbenigol ar ganser mewn agweddau seicolegol ar ofal wedi’i anelu at hyrwyddo sgiliau ymdopi cadarnhaol i’r bobl a’u gofalwyr y mae canser yn effeithio arnynt, ynghyd â chefnogaeth i’r gweithlu canser.
Goruchwylir y gwasanaeth gan y Nyrs Ganser Arweiniol Gina Beard a’i reoli gan yr arweinydd cwnsela Julie Brennan.
Meddai Gina: “Ein hamcanion yw rhoi cefnogaeth seicolegol i’r rheini â chanser a’u gofalwyr, a hefyd cefnogi’r gweithlu canser a chynnig hyfforddiant ychwanegol.
“Cyn dechrau’r prosiect buom yn siarad â’n cydweithwyr mewn gwasanaethau seicolegol a chydag elusennau sy’n gweithio gyda chleifion canser i ddeall yr anghenion yn llawn.
“Mae ein pedwar cwnselydd rhan-amser yn rhoi cymorth gwerthfawr, un i un, er ei fod yn rhithiol ar hyn o bryd. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn am y buddion i gleifion canser a’u gofalwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn ynysu. “
Ychwanegodd Gina: “Yr eisin ar y gacen i ni yw nad oes gennym ni restr aros, sy’n anghyffredin yn y gwasanaeth iechyd. Rydyn ni’n gwybod mai’r peth olaf rydych chi ei eisiau ar ôl cael diagnosis o ganser yw gorfod aros am gefnogaeth a help seicolegol.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y prosiect peilot yn cael ei ymestyn, oherwydd mae gennym ni dystiolaeth go iawn o werth enfawr y gwasanaeth cwnsela.”
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu ariannu’r prosiect peilot, diolch i godi arian hael a rhoddion o’n cymunedau lleol.
Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn: “Mae’r prosiect CaPS hwn yn enghraifft wych o’r gwahaniaeth y gall y rhoddion hael a roddir i wasanaethau canser lleol ei wneud i gleifion y GIG, eu teuluoedd a’u staff.
“Rydym yn falch ein bod wedi gweithio gyda’n cydweithwyr gwasanaethau canser i ariannu’r prosiect peilot hwn ac mae adborth yn dangos bod y gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethauy tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle