Mae un o raddedigion Prifysgol Abertawe’n gobeithio y bydd ei llyfr plant newydd yn lansio cyfres o adnoddau i geisio mynd â darllenwyr ifanc ar daith synhwyraidd.
Mae’r awdures Harriet Beth Carr yn dweud ei bod hi wedi rhoi’r technegau a ddysgodd wrth astudio am radd meistr mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig ar waith wrth ysgrifennu The Mindful Walk: The Adventures of Wilbur-James & Mary.
Meddai Harriet, o Ferthyr Tudful: âMae’r stori’n seiliedig ar fy nau gi ac mae’n dilyn antur drwy goedwig yn arfer techneg syân gyffredin ym maes ymwybyddiaeth ofalgar o’r enw ymwybyddiaeth synhwyraidd.
âGwnes i ddysgu am y ffordd y gall chwarae ein helpu i fagu a chadw sgiliau newydd, felly roeddwn am greu stori a fyddai’n addysgu medr i wella lles plant heb roi’r ymdeimlad iddynt eu bod yn dysgu.â
Mae Harriet yn dweud bod gweithio mewn swydd nad oedd yn rhoi boddhad iddi mewn swyddfa wedi ei hysgogi i ddychwelyd i fyd addysg er mwyn astudio rhywbeth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl.
âPan ddes i ar draws y cwrs gradd meistr yn Abertawe, roeddwn yn gwybod mai dyna’r hyn roeddwn yn chwilio amdano. Roedd pĹľer chwarae o ddiddordeb i mi ac roeddwn am gael mwy o wybodaeth am fabwysiadu ymagwedd chwareus at ddatblygiad, lles ac iechyd yn gyffredinol.
âRoeddwn wrth fy modd ar y cwrs â roedd cefnogaeth fy nhiwtoriaid yn wych, roedd y cynnwys yn hynod ddiddorol a gwnes i ddatblygu safbwynt newydd sbon ar chwarae rwyf erbyn hyn yn ei ddefnyddio yn fy musnes iechyd a lles fy hun, The Kind Nest.
âRwy’n gobeithio y byddaf yn gallu ysgrifennu mwy o lyfrau ac rwy’n bwriadu mynd i ysgolion i gynnig sesiynau lles chwareus. Rwy’n credu bod blaenoriaethu lles a charedigrwydd yn bwysicach nag erioed. â
Meddai’r Rheolwr Rhaglenni a’r Uwch-ddarlithydd Dr Pete King: âMae chwarae’n ffordd allweddol o gefnogi iechyd a lles emosiynol ac roedd sicrhau dealltwriaeth eang o bwysigrwydd chwarae, yn enwedig arferion chwarae anghyfeiriol, yn ysgogiad mawr i ddatblygu ein rhaglen.
âMae llyfr Harriet yn enghraifft wych o’r ffordd y mae ein graddedigion yn rhoi eu gwybodaeth am theori aâu hymchwil ar waith.
âMae’r rhaglen wedi helpu graddedigion i sicrhau amrywiaeth o swyddi megis darparu cyfleoedd chwarae datblygiadol a therapiwtig mewn sefydliadau elusennol, ysgolion, ysbytai, lleoliadau gofal iechyd meddwl a charchardai. Mae rhai hefyd wedi datblygu eu gwasanaethau chwarae therapiwtig eu hunain.â
Ychwanegodd yr Athro Cysylltiol Dr Justine Howard: âRoedd thesis gradd meistr Harriet  yn ymestyn yr hyn a oedd eisoes yn hysbys am ddefnyddio anifeiliaid at ddibenion ymyriadau therapi pwrpasol, gan ganolbwyntio ar fanteision datblygiadol a therapiwtig ein rhyngweithiadau pob dydd â’n hanifeiliaid anwes. Mae ei brwdfrydedd yn amlwg yn y llyfr hardd a grĂŤwyd ganddi.
âO ganlyniad i’r pandemig, mae ymarferwyr a’r rhai sy’n llunio polisĂŻau’n rhoi mwy o bwyslais nag erioed ar iechyd a lles emosiynol plant. Mae ei llyfr yn hynod amserol. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi ac yn edrych ymlaen at weld rhagor o deitlau newydd yn y gyfres.â
Captions
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle