Ychydig dros flwyddyn yn ôl, darganfu Ifan Jones, sy’n ffermio tua 200 erw yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant ym Mhowys, fethiant mawr ar waelod ei danc slyri ar y ddaear. Roedd hyn yn golygu bod perygl mawr y byddai’r cynnwys yn llifo allan i’r cae oddi tano.
“Hysbysais Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn syth, gan ei bod yn amlwg y gallai’r tanc ei hun ddymchwel, ac y gallwn wynebu erlyniad a dirwy fawr,” meddai Ifan.
Yn dilyn ymweliad safle yn brydlon gan un o aelodau tîm technegol CNC, fe’i hysbyswyd y byddai’n cael amser i ddarganfod datrysiad dros dro er mwyn osgoi’r perygl y byddai’r tir yn cael ei lygru, ond nodwyd yn glir hefyd, er eu bod yn cydymdeimlo, bod angen iddo weithredu cynlluniau hirdymor er mwyn osgoi torri rheoliadau trawsgydymffurfio.
Gan ystyried difrifoldeb ei sefyllfa a’r goblygiadau ariannol mewn ffordd realistig, roedd Ifan yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei allu i achub ei fuches o 110 o wartheg llaeth Holstein Friesian pedigri cynhyrchiol, sef prif ffynhonnell incwm y fferm.
Cynghorwyd Ifan gan CNC i geisio cyngor proffesiynol Cyswllt Ffermio er mwyn cynnig datrysiad dros dro ond ar fyrder i’r risg llygredd, a’i helpu i ystyried ei ddewisiadau dros y tymor hir.
Cyflwynodd Ifan gais am gyngor wedi’i ariannu’n llawn mewn ‘cymhorthfa’ un-i-un a ddarparwyd gan gynghorydd isadeiledd arbenigol Cyswllt Ffermio, Keith Owen. Ymwelodd Mr Owen â’r fferm yn fuan iawn wedi hynny, a llwyddodd i sicrhau datrysiad dros dro gyda CNC. Roedd hyn yn golygu pwmpio’r storfa slyri bresennol i gladdfa silwair concrid, a adnewyddwyd ac a drawsnewidiwyd yn storfa slyri dros dro. Derbyniwyd hyn gan CNC.
“Roedd hyn yn gwaredu’r risg y byddai’r storfa wreiddiol yn dymchwel, gan roi system i Ifan er mwyn rheoli’r slyri nes byddai modd ystyried dichonolrwydd adeiladu cyfleuster storio parhaol newydd, a’r arian y byddai modd ei sicrhau i dalu am hyn,” meddai Mr Owen.
Mae ‘cymorthfeydd’ isadeiledd Cyswllt Ffermio, a ariennir yn llawn ac a ddarperir ar-lein ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau’r pandemig, yn cynnig cam rhagarweiniol a ddefnyddir gan nifer o ffermwyr yng Nghymru sy’n ceisio cyngor ynghylch mynd i’r afael â materion megis gwahanu a storio dŵr glân a budr neu os bydd angen arweiniad arnynt ynghylch ariannu prosiectau isadeiledd.
Ar ôl ystyried ei ddewisiadau, penderfynodd Ifan benodi cwmni ymgynghorol amaethyddol AgriPlan, sydd wedi’i gymeradwyo gan Cyswllt Ffermio. Gan fod Ifan yn gallu hawlio cyngor hyd at bedair gwaith, gyda chymhorthdal o 80% neu wedi’i ariannu’n llawn mewn rhai meysydd, roedd modd iddo gomisiynu tîm o arbenigwyr sector-benodol o AgriPlan i bwyso a mesur yr holl ddewisiadau storio slyri a oedd ar gael. Rhoddwyd adroddiad isadeiledd llawn i Ifan, a oedd yn nodi capasiti a manyleb y storfa slyri newydd, gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau yn y dyfodol. Cynhyrchwyd cynllun busnes manwl, a oedd yn cyflwyno’r ochr ariannol, ond hefyd, rhaglen mapio yn amlinellu’r camau yr oedd angen i’r busnes eu cymryd er mwyn datblygu effeithlonrwydd a phroffidioldeb, gan sicrhau ei gynaladwyedd dros y tymor hir.
Roedd y cynllun cychwynnol wedi darparu’r dystiolaeth yr oedd ei hangen ar Ifan er mwyn sicrhau benthyciad banc sylweddol a gwneud cais am Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (SPG) Llywodraeth Cymru.
“Roeddwn yn gwybod y byddai unrhyw ddatrysiad yn costio arian, felly roedd dyfodol y fferm mewn perygl os na fyddwn yn gallu sicrhau’r cyllid,” meddai Ifan.
Erbyn canol mis Mawrth 2019, roedd AgriPlan yn ei gynorthwyo gyda’i gais am SPG, sy’n cynnig cymorth ariannol o hyd at 40% i ffermwyr y mae angen iddynt roi sylw i effaith llygredd ar y fferm trwy wella eu hisadeiledd a’r ffordd y maent yn rheoli dŵr glân a brwnt.
Roedd y Gwasanaeth Cynghori wedi darparu gwaith cynllunio ariannol a busnes ond hefyd, cyngor technegol, a oedd yn angenrheidiol ar gyfer datrysiadau tymor byr a hirdymor er mwyn delio gyda’r slyri, yn ogystal â gwaith cynllunio rheoli glaswelltir a maethynnau yn y pridd.
“Roedd Ifan yn dymuno sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn diogelu’r daliad yn erbyn gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2020 newydd, ynghyd ag unrhyw gynnydd yn nifer y stoc. Lluniwyd cynllun a fyddai’n lleihau cyfanswm y slyri/dŵr brwnt a fyddai’n cael ei gynhyrchu trwy osod to dros yr iardiau brwnt a oedd yn weddill, gan leihau costau pwmpio a gwasgaru yn y dyfodol. Yn ei dro, roedd hyn yn lleihau’r capasiti a oedd yn ofynnol ar gyfer y tanc slyri newydd, gan ostwng y gwariant ymhellach.
“Roedd gosod y tanc slyri wrth ymyl yr hen danc wedi helpu i symleiddio’r broses gynllunio hefyd. Pan oedd yn ei le, roedd y tanc slyri newydd yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheoliadau presennol a chydymffurfiaeth gyda rheoliadau yn y dyfodol, ynghyd â’r hyblygrwydd i’r busnes dyfu heb orfod gwneud buddsoddiad pellach yn yr isadeiledd,” meddai Mr Owen.
Erbyn dechrau Mawrth 2019, roedd Mark Lord o AgriPlan, cyn uwch-reolwr amaeth mewn banc, wedi arfarnu pob elfen o’r busnes. Rhoddodd gynllun busnes i Ifan a oedd yn darparu’r dystiolaeth yr oedd ei hangen arno ynghylch hyfywedd y busnes yn y dyfodol, ac yn ei dro, arweiniodd hyn at lwyddiant ei gais am fenthyciad banc ac SPG.
Cafodd Ifan dri dyfynbris ar wahân, ac ar ôl penodi contractwr, cychwynnwyd ar y gwaith i adeiladu’r pwll slyri newydd ac fe’i cwblhawyd ym mis Hydref 2020.
“Ar yr un pryd, dechreuais weithredu rhai o’r argymhellion ynghylch rheoli glaswelltir ac effeithlonrwydd dŵr yn y cynllun busnes, y penderfynom ei ymestyn i bum mlynedd o’r cynllun tair blynedd gwreiddiol er mwyn rhoi dwy flynedd ychwanegol o ragolygon ariannol i ni,” meddai Ifan.
“Bu’r cyngor arbenigol y llwyddais i’w gael trwy Gyswllt Ffermio yn gyngor o’r radd flaenaf, a rhoddodd yr hyder i mi fwrw ymlaen gyda fy nghais am SPG a buddsoddi yn nyfodol y fferm.”
Os hoffech dderbyn rhagor o fanylion ynglŷn ag unrhyw gyfnodau ymgeisio ar gyfer grantiau a chynlluniau Llywodraeth Cymru, gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad yma: www.gov.wales/subscribe-farming-and-forestry-news-gwlad.
Fel arall, gallwch ffonio eich Swyddog Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000813.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle