Gwlad y Chants: Chwilio am ‘chants’ pêl-droed newydd i Gymru

0
323

Mae’r Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal cystadleuaeth arbennig i ddarganfod ‘chants’ pêl-droed newydd i gefnogi Cymru yn EURO2020. Maent yn galw ar bawb o bob oed dros Gymru i fod yn greadigol a chreu ‘chant’ dwyieithog newydd i roi hwb i’n tîm cenedlaethol a’i anfon at y Mentrau Iaith erbyn Mai 12fed, 2021.

Bydd rhestr fer yn cael eu dewis gan banel o feirniaid cyn i’r cyhoedd fedru dewis eu hoff ‘chant’ mewn pleidlais ar y cyfryngau cymdeithasol ddiwedd mis Mai. Un o’r beirniaid hyn yw’r cerddor a’r cynhyrchydd Yws Gwynedd. Dywed;

“Mae ‘chants’ yn rhan fawr o fywyd cefnogwr, yn y dorf, ar y bws, yn y dafarn, mae’n gwneud i chi deimlo yn rhan o deulu. Dwi’n falch iawn o fod yn feirniaid i’r gystadleuaeth yma ac i ddewis rhestr fer o’r ‘chants’. Dwi’n annog pawb i fynd ati i greu ‘chant’ gan obeithio y byddwn yn clywed y rhain ar y terasau yn fuan.”

Prif wobr y gystadleuaeth yw’r cyfle i ymweld â sesiwn ymarfer carfan Cymru gydag enillwyr y gwahanol gategorïau yn derbyn crys wedi ei arwyddo gan garfan Euro2020.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn awyddus i weld mwy o’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ac yn gweld pwysigrwydd eu rôl wrth ddylanwadu ar bobl dros Gymru i fwynhau yn Gymraeg y tu allan i’r ysgol. Dywed Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru;

“Roedd y Wal Goch yn rhan annatod o lwyddiant y tîm yn EWRO 2016. Cymaint yw grym eu cefnogaeth fod y chwaraewyr yn teimlo fel petai aelod ychwanegol ar y cae efo nhw! Er na fydd cymaint o gefnogwyr yn gallu gwylio’r tîm yn y stadiwm eleni, bydd y ‘chants’ buddugol yn hwb enfawr i’r garfan boed yn Baku neu Bala, Rhufain neu Rhigos. Rydym yn falch iawn o bartneriaethu gyda’r Mentrau Iaith ar y gystadleuaeth hon.”

Er mwyn annog y defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad mae’r Mentrau Iaith eisiau i bawb rhoi tro arni, faint bynnag o’r iaith sydd ganddynt, gan ddarparu geirfa pêl-droed defnyddiol i helpu.

Mae mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth ar www.mentrauiaith.cymru/gwlad-y-chants


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle